Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 25 Medi 2019.
Wel, yn ffodus i ni, Lywydd, mae addysg wedi'i datganoli ac nid oes angen cynhadledd plaid yn Brighton na Bournemouth yn wir i ddweud wrthym sut i weithredu ein system addysg. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain. Gwyddom fod nifer o'r teuluoedd hynny'n dychwelyd i Gymru ac yn gosod eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yma, ac nid oes gennyf gynlluniau i newid y gefnogaeth i hynny. A gallaf sicrhau'r Aelod nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid fy meddwl mewn perthynas â natur statudol addysg grefyddol neu addysg rhyw a pherthnasoedd yn ein diwygiadau i'r cwricwlwm.