Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 25 Medi 2019.
Weinidog, gyda'r cod ad-drefnu ysgolion, fel y'i diwygiwyd, pan fo achosion busnes yn dod gerbron Llywodraeth Cymru i'w cymeradwyo, pa bwyslais y mae'r Gweinidog yn ei roi ar y gorchmynion polisi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith ar y cam hwnnw yn y broses? Neu ai'r unig beth a wnewch yw edrych ar yr ystyriaethau ariannol mewn perthynas â chais o'r fath? Buaswn yn hoffi deall i ba raddau'n union y caiff menter bolisi ei phwyso a'i mesur pan gaiff yr achos busnes ei gymeradwyo, yn y pen draw, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau ysgol newydd.