Ysgolion Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:00, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, nid mater i Lywodraeth Cymru yw cynllunio darpariaeth lleoedd mewn ysgolion; mater i'r awdurdod addysg lleol ydyw, a dylai'r Aelod rannu ei phryderon â'r awdurdod lleol hwnnw yn gyntaf. O ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae meddwl bod rhieni sydd eisiau'r cyfle hwnnw i'w plant yn cael eu hamddifadu o'r cyfle yn peri pryder mawr i mi. Mae hwnnw'n destun pryder mawr i mi. Dylai rhieni allu arfer eu hawl i addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os nad yw'r Aelod yn cael unrhyw lwc wrth gyfathrebu â'r awdurdod lleol, byddaf yn hapus iawn i dderbyn gohebiaeth ganddi ar y mater.