Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae rhieni pryderus yn Llandrillo, Corwen wedi cysylltu â mi i ddweud bod ysgol y pentref, Ysgol Gynradd Llandrillo, wedi cael ei huno ag ysgol Cynwyd. Mae fy nghwestiwn heddiw'n ymwneud â'r sefyllfa sy'n codi pan nad yw'r ysgolion newydd a grëir o ganlyniad i uno a rhesymoli'n gallu parhau i ymdopi â'r galw cynyddol pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'w llwyddiant eu hunain. Mae hyn yn creu rhwyg mewn dau bentref gwledig. Yn Llandrillo, mae adeilad yr hen ysgol yn wag, ac rwy'n deall bod gormod o alw am leoedd yn yr ysgol newydd ac nad yw plant lleol yn cael yr addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei hangen arnynt. Pa gamau y gallwch eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon?