Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 25 Medi 2019.
Nid yw GIG Cymru wedi mabwysiadu'r dull o weithredu y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi datblygu canllawiau i nodi nifer o driniaethau sy'n cynnig gwerth gwael am arian, yn aneffeithiol neu'n beryglus. Mae meddygon yn defnyddio eu crebwyll clinigol a rhagnodwyr eraill i gynnig yr opsiynau triniaeth gorau posibl i'w cleifion.