2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth glinigol isel o'r rhestr o driniaethau rhagnodadwy? OAQ54374
Nid yw GIG Cymru wedi mabwysiadu'r dull o weithredu y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi datblygu canllawiau i nodi nifer o driniaethau sy'n cynnig gwerth gwael am arian, yn aneffeithiol neu'n beryglus. Mae meddygon yn defnyddio eu crebwyll clinigol a rhagnodwyr eraill i gynnig yr opsiynau triniaeth gorau posibl i'w cleifion.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ganed y Gymraes wyth oed, Sofia Bow, gydag anhwylder genetig ffeibrosis systig, sy'n effeithio ar un o bob 2,500 o fabanod a gaiff eu geni. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwrthod ariannu'r cyffuriau Orkambi a Symkevi, er bod profion wedi dangos eu bod yn gallu gwella iechyd yr ysgyfaint a lleihau'r angen am dderbyn cleifion i'r ysbyty, gan ddweud eu bod yn rhy ddrud, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi disgownt gyda'r gwneuthurwyr fel y gellir rhoi'r cyffuriau ar bresgripsiwn i ddioddefwyr yn yr Alban. Mae teulu Sofia yn ystyried gadael eu cartref yng Nghymru a symud i'r Alban fel y gall eu merch gael y driniaeth drawsnewidiol hon sydd ei hangen arni. Felly, a wnewch chi ddilyn esiampl GIG yr Alban yn awr a rhoi Orkambi a Symkevi ar bresgripsiwn? Os mai'r arian yw'r unig rwystr, ar ôl i chi benderfynu ar bris rhesymol am fywyd plentyn, a wnewch chi drefnu disgownt os bydd angen, neu a oes angen i Weinidog iechyd yr Alban wneud hynny ar eich rhan?
Rwy'n ofni bod cwestiwn yr Aelod yn gwyro oddi wrth ei chwestiwn cyntaf drwy beidio â chyfeirio at driniaethau sydd â blaenoriaeth glinigol isel a rhestr o driniaethau rhagnodadwy, ac mewn gwirionedd, mae'n gamddealltwriaeth sylweddol o'r sefyllfa mewn perthynas ag Orkambi.
Rwyf wedi dweud mewn gohebiaeth â'r holl Aelodau ac mewn datganiadau cyhoeddus fy mod yn dal i fynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'r dewis y mae Vertex wedi'i wneud—gweithgynhyrchwyr Orkambi a Symkevi—i beidio ag ymgysylltu â'r broses arfarnu yma yng Nghymru. Nid mater o arian yn unig ydyw. I'r Aelodau yma, ond hefyd i'r teuluoedd sy'n gwylio ac yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae hyn ymwneud â mwy nag arian yn unig; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r amharodrwydd i gymryd rhan mewn proses i ddarparu tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd y meddyginiaethau hyn neu fel arall. A bod yn onest, pe baent yn gwerthu'r meddyginiaethau am £1 y tro, yn hytrach na £100,000 am bob triniaeth, byddai'n dal i fod angen i ni wybod beth yw effaith y feddyginiaeth.
O ran y fargen y maent wedi'i tharo yn yr Alban, ar ôl i'w proses arfarnu eu hunain yno beidio â chaniatáu mynediad at Orkambi, maent wedi mynd yn ôl a tharo bargen wahanol sy'n ddarostyngedig i gyfrinachedd masnachol. Nid wyf wedi gweld hynny, felly nid wyf mewn sefyllfa i gopïo'r un fargen na hyd yn oed i wneud sylwadau yn briodol ar y gwerth cymharol a roddir iddo.
Buaswn yn annog Vertex eto i ymwneud â'r broses arfarnu yma yng Nghymru fel y maent wedi nodi yn y gorffennol y byddent yn ei wneud, i beidio â rhoi teuluoedd yn y sefyllfa annymunol hon, ac i'n galluogi i ddeall yn iawn pa mor effeithiol yw'r feddyginiaeth sydd ganddynt ar gael, ac i ni wedyn wneud dewis sy'n seiliedig ar dystiolaeth briodol. Nid wyf eisiau i unrhyw deulu yng Nghymru gael ei roi yn y sefyllfa y mae'r Aelod yn ei disgrifio oherwydd bod cwmni fferyllol yn gwrthod cymryd rhan yn ein proses arfarnu uchel ei pharch ac sydd wedi'i deall yn dda.
Weinidog, rwy'n croesawu'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r agenda gofal iechyd darbodus. Un o egwyddorion yr agenda honno yw, 'Peidiwch â gwneud dim heblaw'r hyn y gallwch ei wneud a gadewch i eraill wneud y pethau na allwch eu gwneud.' Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gellid diwygio'r GIG fyddai galluogi fferyllwyr ledled Cymru i wneud mwy o'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn meddygfeydd meddygon teulu. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y fferyllwyr ledled Cymru sy'n chwilio am gontract newydd er mwyn iddynt allu mynd i'r afael yn benodol â hyn unwaith ac am byth?
Fel y nodais o'r blaen wrth drafod gofal sylfaenol yn fwy cyffredinol yma, mae'r broses o ddiwygio contractau ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth, yn rhan bwysig o'n gallu i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Mewn gwirionedd, mae contractwyr fferyllol sy'n fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgwrs reolaidd ac adeiladol gyda'r Llywodraeth. Rwy'n disgwyl y bydd cam nesaf y contract fferylliaeth yn y dyfodol yn caniatáu inni fuddsoddi mwy yn nyfodol fferylliaeth ac mewn ystod ehangach o wasanaethau, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt, pwy a ŵyr, yn ffurfio rhan o'r cwestiynau y bydd Aelodau eraill yn eu gofyn yn ddiweddarach ar y papur trefn.