2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54384
Gwnaf. Mae recriwtio a chadw staff yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn arwain mentrau i wella lefelau cadw staff, megis dychwelyd i weithio a gwella lles staff. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Diolch, Weinidog. Drwy gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad, deuthum ar draws ffaith frawychus am nifer y nyrsys yng Nghymru: mae 4,727 wedi gadael GIG Cymru ers 2016/17. A gwrandewch: yn 2018/19, roedd mwy o staff yn gadael nag a oedd yn ymuno â'r gwasanaeth. Mae arnom angen mwy o nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal, ac fel y mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi'i ddweud, mae hyn yn gofyn am ganolbwyntio ar recriwtio a mynd i'r afael â chadw staff. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw recriwtio cynyddol yn gynaliadwy heb wella cyfraddau cadw staff. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i weld pam y mae cynifer o staff yn gadael y gwasanaeth yng Nghymru, ac a wnewch chi ddatblygu strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG sy'n canolbwyntio ar ddarparu amodau gwaith diogel a gweithio mwy hyblyg i helpu ein nyrsys gweithgar ledled Cymru?
Efallai fod yr Aelod wedi nodi ac wedi anghofio, wrth ddarllen ei chwestiwn atodol, ein bod wedi siarad am strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG mewn ymateb i ddau gwestiwn yn gynharach heddiw. Rwy'n cydnabod, y llynedd, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, fod 65 yn fwy wedi gadael y gweithlu nyrsio nag a ymunodd â'r gweithlu hwnnw; mae hynny'n gwrthgyferbynnu â thuedd gyson o gynnydd yn nifer y nyrsys. Rhwng 2009-18, cododd nifer y nyrsys 3.8 y cant i gyd. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ffigurau'r bobl sydd wedi gadael y gwasanaeth, ond wrth gwrs, rydym yn recriwtio bob blwyddyn hefyd. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod wedi trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon y gwaith a wnawn ar geisio recriwtio rhagor o nyrsys. Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi Gweithio Byw' wedi bod yn llwyddiannus. A dweud y gwir, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol ei hun wedi canmol yr ymgyrch benodol honno. Mae hefyd yn ffaith ein bod, yn y pum mlynedd diwethaf, wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys 68 y cant yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i gynyddu nifer y nyrsys sy'n dod i'r proffesiwn, fel yn wir, gyda'r gwaith a wnawn—cyfeiriodd yr Aelod at rywfaint ohono—ar sicrhau bod gennym batrymau mwy hyblyg sy'n adlewyrchu realiti gwaith rhywun i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn cadw'r nyrsys sydd gennym ar hyn o bryd hefyd. Y ffactor mawr, wrth gwrs, a fydd yn effeithio ar beth o'n gallu i recriwtio nyrsys yn y dyfodol yw parhad ein perthynas ag Ewrop, lle rydym yn dal i recriwtio a chyflogi nifer o nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd a’r ardal economaidd ehangach o fewn teulu'r GIG.
Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed yr ateb rydych chi newydd ei roi, a'r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddatblygu a hyfforddi mwy o nyrsys ledled yr ardal. Rwy’n siarad â nyrsys—nid nyrsys yn unig, ond gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y gwasanaeth iechyd—ac rwyf am ganmol y gwaith a wnânt, oherwydd mae llawer ohonynt, os nad pob un ohonynt, yn mynd y tu hwnt i'w hamodau gwaith arferol ac yn ymdrechu’n galed mewn gwirionedd, ond mae'n dreth ar y nyrsys a staff eraill. Maent yn cyrraedd pwynt lle na allant gymryd mwy, ac felly mae'n rhaid iddynt geisio gadael yn gynnar.
Rydych chi wedi siarad am weithio'n hyblyg. Rwyf wedi codi hyn gyda fy mwrdd iechyd fy hun ar fwy nag un achlysur. A wnewch chi edrych ar gyfleoedd, oherwydd mae rhai o'r nyrsys sy'n gadael ac yn mynd i asiantaethau yn ei wneud oherwydd eu bod eisiau mwy o reolaeth dros yr oriau y maent yn eu gweithio? Maent eisiau’r gallu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gyda'u teuluoedd. Felly, a wnewch chi edrych ar hyblygrwydd contractau gwaith fel y gall nyrsys gael hynny o fewn y GIG, heb orfod mynd at asiantaeth i gael y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth iddynt? Mae'n dangos eu bod yn cael gofal a pharch gan y system, nid gan y cleifion yn unig.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar wahanol bwyntiau yng nghylch hyfforddi aelodau o staff y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd pan fyddant ar wahanol bwyntiau yn eu bywyd gwaith. Dyna pam ei bod hi wedi bod yn bwysig i mi gadw bwrsariaeth y GIG. Gwelsom effaith cael gwared ar y fwrsariaeth yn Lloegr, lle y cafodd effaith drychinebus ar recriwtio nyrsys anableddau dysgu yn benodol, sy'n aml yn fwy tebygol o fod yn nyrsys aeddfed.
Mae yna bwynt hefyd am y patrwm gweithio hyblyg a fydd yn bwysig ar wahanol bwyntiau gwahanol ym mywyd rhywun, boed yn ymwneud â chyfrifoldebau gofalu am oedolion neu blant, neu fod pobl eisiau bod ar gam gwahanol o'u bywydau tuag at ddiwedd eu gyrfa hefyd, oherwydd rydym yn dibynnu ar ewyllys da'r staff i ddarparu'r gwasanaeth
Felly, ydy, mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei ystyried, nid ar gyfer y dyfodol pell yn unig, ond mae'n rhan o'r hyn y mae byrddau iechyd eisoes yn ceisio mynd i'r afael ag ef heddiw. Ond mae'n mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wneuthum i Dai Lloyd am ein gallu i ddiwygio'r system gyfan fel y credwn y gallem ac y dylem ei wneud, a pha mor gyflym y gallwn ei wneud, gan fod hon yn flaenoriaeth yn awr, ac nid mewn dwy neu dair blynedd yn unig.