Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 25 Medi 2019.
Fel nad wyf yn camddeall yr union bwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi o safbwynt gwybodaeth a phryderon lleol, buaswn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf fel y gallaf sicrhau, ai'r Llywodraeth—neu yn wir, ofyn i'r bwrdd cynllunio ardal edrych ar hyn gyda'u gwybodaeth leol eu hunain hefyd. Mae'r ffigurau a ddyfynnais yn gynharach yn cyfeirio at y ffigurau a gyhoeddwyd yn 2018, felly mae'n bosibl fod yr Aelod yn cyfeirio at farwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau sydd wedi digwydd ar ôl hynny. Felly, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'n ysgrifennu ataf. Fe edrychaf ar hynny ac fe ysgrifennaf ato i egluro sut y byddwn naill ai'n edrych ar hynny o fewn y Llywodraeth, neu yn wir, sut y mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu a sut y caiff ymateb ei geisio gan y bwrdd cynllunio ardal.