Camddefnyddio Cyffuriau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:00, 25 Medi 2019

Dwi wedi dod yn ymwybodol o beth sy'n ymddangos yn batrwm pryderus iawn o farwolaethau ym Môn yn y cyfnod diweddar. Dwi'n dweud fy mod i wedi dod yn ymwybodol o hyn, achos, cyn belled ag ydw i'n gwybod, does yna ddim cyhoeddusrwydd wedi bod am hyn. Beth dwi wedi'i gael ydy pobl yn ein cymunedau ni'n siarad efo fi i rannu eu pryderon nhw, ac maen nhw'n gweld y patrwm. Dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod yna bump o farwolaethau wedi bod yn ardal Llangefni mewn cyfnod byr yn ddiweddar. A'r ofn, yn benodol, ydy bod camddefnyddwyr cyffuriau wedi bod yn cyfuno'r cyffur benzodiazepine efo sylweddau eraill efo canlyniadau trasig.

Rŵan, o wneud ymholiadau efo'r heddlu a'r crwner, mae'n ymddangos nad oes data'n cael eu cadw ar y cyffur penodol yna fel achos marwolaeth am ei fod o'n cael ei gyfrif fel contributory factor yn unig. Allaf i ofyn i'r Llywodraeth i edrych i mewn i'r marwolaethau yma i ymchwilio i'r posibilrwydd bod yna batrwm yma? Gaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud i adnabod faint o broblem ydy cymryd cyfuniad o gyffuriau? Ac a allaf i apelio am gymorth ychwanegol sydd wirioneddol ei angen ar frys, yn amlwg, er mwyn gallu cynnig help i'r rheini sydd yn gaeth i gyffuriau, rhai ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer, fel ein bod ni'n gallu atal marwolaethau o'r fath?