Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 25 Medi 2019.
Yn sicr. Rwyf wedi ymweld â Kaleidoscope fy hun yn ystod fy amser yn y swydd fel Gweinidog i weld drosof fy hun rywfaint o'r gwaith y maent yn ei wneud ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys cyffuriau sy'n gwella delwedd ac amrywiaeth o wahanol fathau o ddibyniaeth a heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae'n rhan o'n dull o ddod â'r trydydd sector a chyrff statudol at ei gilydd mewn byrddau cynllunio ardal i ddeall pa wybodaeth leol sydd ei hangen, ac yna i wneud dewisiadau buddsoddi yn unol â hynny. Felly, ni chânt eu gwneud yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fyrddau cynllunio ardal er mwyn darparu gwasanaethau rheng flaen. Felly, ydy, mae'n enghraifft dda o fodel sy'n gweithio. Mae'n enghraifft dda hefyd o'r angen parhaus yn y gwasanaethau hynny, ac mae angen i ni adolygu'n barhaus ein gallu i gefnogi gwaith rheng flaen ymhellach, yn ogystal, wrth gwrs, â'r galw a'r rhesymau dros y galw hwnnw sy'n wynebu ein gwasanaethau.