Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 25 Medi 2019.
Weinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf. Maent yn dweud bod nifer y bobl sy'n marw o wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Dywedant hefyd y bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n marw o sylweddau fel cocên. O gofio y gall gofyn am gymorth yn gynnar atal y broblem a'r ddibyniaeth rhag gwaethygu, Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem dibyniaeth ar gyffuriau yng Nghymru yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn?