Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:57, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus iawn ar yr achlysuron pan fydd hyd yn oed Aelodau'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo gweithred gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hwn yn gynllun da. Sylwaf yn rhifyn mis Awst o 'Clinical Pharmacist' fod y cynllun yn cael ei werthuso a'i ganmol ac mae'n enghraifft o arloesedd a gwellhad go iawn. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ceisio cael pobl â mân anhwylderau i geisio cyngor fferyllydd—poen gwaelod y cefn, insomnia. Ceir amrywiaeth eang o bethau lle mae eich fferyllydd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n parhau. Ond mae'n gynllun addawol iawn, felly rwy'n ei gymeradwyo.