Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 25 Medi 2019.
Wel, diolch yn fawr, a dylwn ailadrodd—gwn fy mod wedi dweud yn y Siambr hon droeon, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ac yn wir, yn fy rôl bresennol—fod hyn wedi'i adeiladu ar gefn y buddsoddiad yn y platfform Dewis Fferyllfa. Mae hwnnw bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd. Mae'n caniatáu inni fuddsoddi mewn gwasanaethau gwahanol ac ychwanegol o fewn y sector fferylliaeth gymunedol. Felly, rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu nid yn unig i symud ymlaen â'r enghraifft benodol hon, ond y byddwn, yn y dyfodol, yn gweld mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn y gymuned.