Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch am y cwestiwn. Mae unrhyw farwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi, ac rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Y cyfraddau marwolaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yn Ynys Môn yw 6.4 y 100,000, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, sef 7.2. Er bod amrywiad yn y pwyntiau canran hynny, mae hyn mewn gwirionedd yn dangos bod dwy farwolaeth ychwanegol yn gysylltiedig â chyffuriau, neu farwolaethau camddefnyddio cyffuriau, ar Ynys Môn yn y ffigurau diweddaraf.