Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 25 Medi 2019.
A gaf fi ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a'r pryderon a fynegwyd ganddi, nid yn unig o ran y rhai yr effeithiwyd arnynt sydd wedi bod yn teithio gyda Thomas Cook, ond hefyd o ran gweithwyr y cwmni? Hoffwn gofnodi fy niolch i'r ddynes garedig o'r Gilfach Goch a helpodd i godi arian i bobl sy'n wynebu diweithdra. Roedd honno'n weithred anhunanol, yn fy marn i, a chredaf fod ymateb y teithwyr eraill ar yr awyren yn anhygoel.
A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Awdurdod Hedfan Sifil a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Pan ddechreuodd Ymgyrch Matterhorn, cafwyd ymdrech aruthrol i ddod â 150,000 o bobl yn ôl i'r Deyrnas Unedig, a dywedodd Gweinidogion Llywodraeth y DU a minnau'n glir na fyddai hon yn dasg hawdd, ond mae'r ffordd y mae'r Awdurdod Hedfan Sifil, yn benodol, wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i rheoli yn anhygoel, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl a gludwyd adref o ganlyniad i'w hymdrechion yn ymuno â mi i ddiolch iddynt—yn ogystal â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n gwneud gwaith anhygoel ar lawr gwlad mewn cymaint o wledydd yn rhoi cefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig.
Rwyf am drafod achos unigryw a grybwyllwyd gan Bethan Jenkins, ond mae'n un sy'n peri pryder i mi, sef y penderfyniad gan deithiwr ag anabledd i dalu am eu taith awyr eu hunain adref. Un peth yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a minnau yn awyddus i'w archwilio cyn i Ymgyrch Matterhorn ddechrau oedd y byddai darpariaeth ar gael i bobl anabl, ac y byddai'n cael ei blaenoriaethu: nid darpariaeth i gyrraedd awyren yn unig—gwasanaeth gwahanol a mynd ar yr awyren honno—ond hefyd cludiant pellach ar ôl dychwelyd adref. Cawsom sicrwydd y byddai cludiant i bobl anabl yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth. Os gall yr Aelod roi gwybodaeth i mi am yr etholwr dan sylw, byddaf yn trafod y mater gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Awdurdod Hedfan Sifil wrth gwrs.
Mae arnaf ofn y bydd tranc Thomas Cook yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl. Rydym yn amcangyfrif y bydd 179.5 o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu heffeithio yng Nghymru yn unig drwy gau'r siopau, a 45 aelod ychwanegol o staff ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd rhaglen Cymru'n Gweithio ar gael iddynt fel rhan o hynny. Bydd ReAct, rhaglen ymyrraeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ar gael iddynt. Mae gennym dimau ymateb rhanbarthol ledled Cymru yn barod i gynorthwyo unrhyw un yr effeithir arnynt gan fethiant Thomas Cook, a buaswn yn annog unrhyw Aelodau sy'n clywed gan fusnesau yr effeithir arnynt yn sgil tranc y cwmni i'w cyfeirio at linell gymorth Busnes Cymru.
Credaf fod Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig iawn y bydd llawer o'n cymunedau—ac fe edrychais drwy'r rhestr i weld ble y lleolir rhai o ganghennau Thomas Cook—yn cael eu heffeithio'n ddifrifol wrth i lawer o'r siopau hynny gau. Ar lawer o’r strydoedd mawr rwy'n gyfarwydd â hwy, prin iawn yw gwasanaethau o’r fath, a bydd cael siop arall yn cau yn rhai o’r lleoedd hynny, wrth gwrs, yn eithaf dinistriol, a dyna pam fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau yn awyddus i fwrw ymlaen â menter 'canol y dref yn gyntaf' a fyddai'n golygu bod y sector cyhoeddus, a'r sector preifat yn wir, yn blaenoriaethu buddsoddiad yng nghanol y dref i ysgogi mwy o gadernid economaidd ynddynt. Ni fydd hon yn dasg hawdd, ond mae'n un y mae'n rhaid i ni gychwyn arni.
Ac un pwynt olaf hefyd, ac mae'n ymwneud â gweithredoedd y prif weithredwyr. Rwy'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi agor ymchwiliad i gamau gweithredu corfforaethol, a chredaf ei bod yn briodol inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn gwneud sylwadau arno.