3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341
Lywydd, a gaf fi ddweud ei bod yn hynod siomedig fod Thomas Cook wedi mynd i'r wal? Rwy'n cydymdeimlo, wrth gwrs, gyda phawb yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe a oedd yn amlinellu’r ystod o gamau rwyf wedi'u cymryd, ac mae fy swyddogion, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Maes Awyr Caerdydd, Llywodraeth y DU ac amryw asiantaethau eraill.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw. Gan ddechrau ar bwynt cadarnhaol, hoffwn ofyn i chi ymuno â mi i ganmol Elaine Kerslake o'r Gilfach Goch, a aeth ati i godi arian ar daith awyr yn ôl adref gyda Thomas Cook pan sylweddolodd nad oedd y staff yn cael eu talu. Felly, a fyddech yn awyddus i'w chanmol am wneud hynny? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi, felly, i ofyn i reolwyr a phrif weithredwyr Thomas Cook, a enillodd £35 miliwn mewn 12 mlynedd mewn taliadau bonws, yn ôl adroddiadau, er gwaethaf y problemau ariannol roeddent yn eu hwynebu—a wnewch chi ofyn iddynt ad-dalu—ymuno â mi i ofyn iddynt ad-dalu'r taliadau bonws hynny yn wyneb y sefyllfa arbennig o sensitif hon, lle rydym yn darganfod nad yw staff Thomas Cook yn cael eu talu pan fo'r prif weithredwyr hynny wedi elwa o gwymp y cwmni hwnnw?
Fy nghwestiwn arall i chi fyddai—yn fy ardal i o leiaf, mae llawer o siopau Thomas Cook a bydd yr effaith ar y staff yn wael. Gwn eich bod yn sôn yn eich datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi staff, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond a allech ymhelaethu ar hynny, a hefyd sut y byddech o bosibl yn cefnogi'r seilwaith o amgylch y siopau hynny ar ein stryd fawr y bydd angen eu helpu yn y dyfodol—a all asiantau teithio eraill neu gwmnïau eraill o'r fath eu cymryd drosodd, gan y gallai hynny gynorthwyo'r stryd fawr—a dweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd staff yn gyffredinol yng Nghymru yn cael eu cefnogi?
Nawr, gŵyr pob un ohonom am yr effaith ar deithwyr, ac mae llawer ohonynt wedi dod ataf, ond gwnaeth un achos penodol i mi bryderu—ni allai un o fy etholwyr ddod adref ar yr awyren a ddynodwyd ar eu cyfer i Gaerdydd oherwydd anableddau, ac felly bu'n rhaid iddynt dalu am eu taith awyr eu hunain. A allwch roi sicrwydd inni eich bod yn ymchwilio i'r mathau hyn o sefyllfaoedd fel y gall teithwyr deithio yn ôl yn y cyfforddusrwydd sydd ei angen arnynt a chyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt os oes ganddynt yr anableddau hynny? Ni allwn anghofio'r bobl sy'n ddiamddiffyn pan fyddant yn ceisio teithio adref. Ond hoffwn rannu—gyda phawb arall, rwy'n siŵr, yn y Siambr hon—pa mor drist yr ydym fod hyn wedi digwydd a sut y gallwn fel gwlad, o bosibl, gefnogi'r staff hynny a'r rhai yr effeithir arnynt.
A gaf fi ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a'r pryderon a fynegwyd ganddi, nid yn unig o ran y rhai yr effeithiwyd arnynt sydd wedi bod yn teithio gyda Thomas Cook, ond hefyd o ran gweithwyr y cwmni? Hoffwn gofnodi fy niolch i'r ddynes garedig o'r Gilfach Goch a helpodd i godi arian i bobl sy'n wynebu diweithdra. Roedd honno'n weithred anhunanol, yn fy marn i, a chredaf fod ymateb y teithwyr eraill ar yr awyren yn anhygoel.
A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Awdurdod Hedfan Sifil a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Pan ddechreuodd Ymgyrch Matterhorn, cafwyd ymdrech aruthrol i ddod â 150,000 o bobl yn ôl i'r Deyrnas Unedig, a dywedodd Gweinidogion Llywodraeth y DU a minnau'n glir na fyddai hon yn dasg hawdd, ond mae'r ffordd y mae'r Awdurdod Hedfan Sifil, yn benodol, wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i rheoli yn anhygoel, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl a gludwyd adref o ganlyniad i'w hymdrechion yn ymuno â mi i ddiolch iddynt—yn ogystal â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n gwneud gwaith anhygoel ar lawr gwlad mewn cymaint o wledydd yn rhoi cefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig.
Rwyf am drafod achos unigryw a grybwyllwyd gan Bethan Jenkins, ond mae'n un sy'n peri pryder i mi, sef y penderfyniad gan deithiwr ag anabledd i dalu am eu taith awyr eu hunain adref. Un peth yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a minnau yn awyddus i'w archwilio cyn i Ymgyrch Matterhorn ddechrau oedd y byddai darpariaeth ar gael i bobl anabl, ac y byddai'n cael ei blaenoriaethu: nid darpariaeth i gyrraedd awyren yn unig—gwasanaeth gwahanol a mynd ar yr awyren honno—ond hefyd cludiant pellach ar ôl dychwelyd adref. Cawsom sicrwydd y byddai cludiant i bobl anabl yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth. Os gall yr Aelod roi gwybodaeth i mi am yr etholwr dan sylw, byddaf yn trafod y mater gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Awdurdod Hedfan Sifil wrth gwrs.
Mae arnaf ofn y bydd tranc Thomas Cook yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl. Rydym yn amcangyfrif y bydd 179.5 o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu heffeithio yng Nghymru yn unig drwy gau'r siopau, a 45 aelod ychwanegol o staff ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd rhaglen Cymru'n Gweithio ar gael iddynt fel rhan o hynny. Bydd ReAct, rhaglen ymyrraeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ar gael iddynt. Mae gennym dimau ymateb rhanbarthol ledled Cymru yn barod i gynorthwyo unrhyw un yr effeithir arnynt gan fethiant Thomas Cook, a buaswn yn annog unrhyw Aelodau sy'n clywed gan fusnesau yr effeithir arnynt yn sgil tranc y cwmni i'w cyfeirio at linell gymorth Busnes Cymru.
Credaf fod Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig iawn y bydd llawer o'n cymunedau—ac fe edrychais drwy'r rhestr i weld ble y lleolir rhai o ganghennau Thomas Cook—yn cael eu heffeithio'n ddifrifol wrth i lawer o'r siopau hynny gau. Ar lawer o’r strydoedd mawr rwy'n gyfarwydd â hwy, prin iawn yw gwasanaethau o’r fath, a bydd cael siop arall yn cau yn rhai o’r lleoedd hynny, wrth gwrs, yn eithaf dinistriol, a dyna pam fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau yn awyddus i fwrw ymlaen â menter 'canol y dref yn gyntaf' a fyddai'n golygu bod y sector cyhoeddus, a'r sector preifat yn wir, yn blaenoriaethu buddsoddiad yng nghanol y dref i ysgogi mwy o gadernid economaidd ynddynt. Ni fydd hon yn dasg hawdd, ond mae'n un y mae'n rhaid i ni gychwyn arni.
Ac un pwynt olaf hefyd, ac mae'n ymwneud â gweithredoedd y prif weithredwyr. Rwy'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi agor ymchwiliad i gamau gweithredu corfforaethol, a chredaf ei bod yn briodol inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn gwneud sylwadau arno.
A gaf finnau ategu'r Aelodau eraill sydd wedi cydymdeimlo â'r staff yr effeithir arnynt, ac wrth gwrs, y nifer fawr o bobl eraill yr effeithiwyd arnynt ac sy'n dal i gael eu heffeithio hefyd? Rwy’n falch, Weinidog, fod y llinell gymorth y cyfeirioch chi ati mewn perthynas â Cymru'n Gweithio wedi'i sefydlu—credaf mai dyna’r ffordd gywir o fynd ati. Tybed pa gefnogaeth yr ystyriwch y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru ei darparu i Faes Awyr Caerdydd. Ceir her yma yn y ffaith bod y maes awyr wedi colli cwmni hedfan pwysig sy'n cludo 100,000 o deithwyr bob blwyddyn. Felly, cefais fy synnu i raddau, ond efallai y gallwch ymhelaethu ar hyn, wrth ddarllen yn eich datganiad ddoe eich bod yn credu mai effaith gyfyngedig y bydd hyn yn ei chael ar y maes awyr. Efallai y bydd yn anodd iawn i'r maes awyr ddod o hyd i gwmni hedfan partner newydd yn lle Thomas Cook cyn tymor prysur yr haf y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y maes awyr wedi colli £23 miliwn ers 2014. Felly, a ydych yn teimlo bod angen rhywfaint o gefnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd, ac a allech amlinellu pa gefnogaeth y credwch y gallai fod ei hangen arno? A hefyd, pa ddadansoddiad cychwynnol a wnaethoch o effaith methiant Thomas Cook ar sefydlogrwydd ariannol Maes Awyr Caerdydd?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am ymuno ag Aelodau eraill yn y Siambr hon i ddiolch i sefydliadau a chyrff fel yr Awdurdod Hedfan Sifil am eu gwaith a'u hymdrechion dros y dyddiau diwethaf? Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fater maes awyr rhyngwladol Caerdydd, sef prif ffocws cwestiynau Russell George.
O ran cynaliadwyedd ariannol y maes awyr ar ôl cwymp Thomas Cook, mae'n wir na fydd hynny'n cael effaith fawr ar y maes awyr, ac mae hynny oherwydd, fel rhan o waith diwydrwydd dyladwy'r broses ymgeisio am y benthyciad a ddarparwyd gennym i faes awyr rhyngwladol Caerdydd, modelwyd nifer o senarios gennym. Roedd un o'r senarios hynny'n cynnwys yr effaith y byddai methiant cwmni hedfan yn ei chael ar y maes awyr. Y model a ddewiswyd gennym oedd cwmni hedfan mwy o faint, ac felly, nid yw hyfywedd y maes awyr wedi'i amharu i raddau helaeth, er gwaethaf methiant Thomas Cook.
Fodd bynnag, credaf fod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig ynghylch perchnogaeth a chynaliadwyedd hirdymor y maes awyr, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn y Siambr hon yn yr hydref. Mae'n eithaf anhygoel; rydym yn tueddu i feddwl, yn y DU, y dylai meysydd awyr fod yn eiddo preifat yn ddiofyn, ond nid yw hyn yn wir yn fyd-eang. Credaf fod oddeutu 4,300 o feysydd awyr yn darparu gwasanaeth teithiau awyr rheolaidd, ond 14 y cant yn unig ohonynt sydd heb fod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae hyd yn oed meysydd awyr fel JFK yn eiddo i'r cyhoedd. Felly, y model byd-eang, mewn gwirionedd, yw bod meysydd awyr yn eiddo i'r cyhoedd, a dylai hynny fod yr un peth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn fy marn i. Mae'r maes awyr yn siarad yn rheolaidd iawn gyda chwmnïau hedfan gwahanol, cwmnïau hedfan eraill y mae'n ceisio eu denu i'r cyfleuster, ac rwy'n hyderus iawn, ar sail ar y trafodaethau diweddar iawn sydd wedi mynd rhagddynt, y bydd cwmnïau hedfan newydd yn cael eu denu ac y byddant yn darparu llwybrau newydd o ac i Faes Awyr Caerdydd.
Ond os caf ddweud, mae cwmnïau hedfan yn wynebu dwy her fawr ar hyn o bryd, cwmnïau sy'n gweithredu o'r DU. Mae un yn ymwneud â grym gwario dinasyddion y DU, sydd wedi lleihau dramor oherwydd y cwymp yng ngwerth y bunt, ac felly anhawster wrth ddenu dinasyddion y DU i fynd dramor. Ac yna'r ail her sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit yw'r cwymp yn y bunt a'r ffaith bod tanwydd yn cael ei brisio mewn doleri, ac felly mae cost gweithredu cwmnïau hedfan sydd wedi'u lleoli yn y DU wedi codi. Felly, mae'n amlwg fod y sector ei hun mewn sefyllfa fregus a simsan iawn.
A gaf finnau gydymdeimlo â'r staff, fel yr amlinellwyd gan Bethan a Russell—y staff sy'n gweithio yn y siopau yng Nghymru, ond hefyd y staff ym mhob rhan o waith y cwmni hedfan? Oni fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, hyd yn oed pe bai'n ddymunol rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook—ac o ystyried y strwythur rheoli, sy'n echrydus yn ôl pob golwg, mae'n debyg na fyddai—y gallai Llywodraeth y DU fod yn mynd yn groes i reolau cymorth gwladwriaethol Ewrop pe baent yn ceisio rhoi arian cynorthwyol i'r cwmni? Ac mae un pwynt yn ymwneud â dod â theithwyr yn ôl o dramor. Yn ôl pob tebyg, pan fydd cwmni neu gwmni hedfan yn cael eu diddymu, mae'r holl awyrennau sy'n eiddo i'r cwmni hwnnw'n cael eu hatal rhag hedfan. Mae'n amlwg, pan aeth Monarch i'r wal, fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddent yn newid y rheolau. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i newid y rheolau mewn perthynas â hyn, fel y gellid rhyddhau'r awyrennau hynny i ddod â theithwyr adref ar adegau fel hyn?
Yn sicr. Byddaf yn ystyried gwneud hynny heb unrhyw amheuaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gallu'r Awdurdod Hedfan Sifil, serch hynny, i nodi 45 o awyrennau i ddod â theithwyr yn ôl yn rhyfeddol. Mae'r ffaith eu bod wedi gallu gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr yn glod mawr iddynt. Credaf mai mater i Lywodraeth y DU yw ystyried a ddylent fod wedi rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook ai peidio. Nid wyf yn gwybod, ac rwy'n amau na chaf byth wybod, pa gamau diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd ganddynt. Felly, rwy’n derbyn gair Gweinidogion Llywodraeth y DU pan ddywedant na fyddai wedi bod yn opsiwn cynaliadwy a fforddiadwy. Gwn fod pobl wedi codi'r cwestiwn ynglŷn ag a ddylid ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae'n debyg fod hwnnw'n fater i Aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin ei godi. Ond fel y dywedaf, nid wyf wedi derbyn unrhyw wybodaeth a ddarparwyd drwy'r broses ddiwydrwydd dyladwy.
Diolch, Weinidog.