Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch yn fawr. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hawliau pleidleisio i garcharorion.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; aelodau'r cyhoedd a gyfrannodd at ein fforwm trafod ar-lein, a'r ffordd barchus y trafodwyd ac y cynhaliwyd dadleuon ar wahaniaethau barn, yn enwedig gan fod y materion hyn yn ddadleuol iawn; a staff y carchar a'r carcharorion y buom yn siarad â hwy yn ystod ein hymweliadau â Charchar Ei Mawrhydi y Parc a Charchar Ei Mawrhydi Eastwood Park. Mae’r ddau wedi rhoi cipolwg go iawn inni ar ymarferoldeb cyflwyno unrhyw newid, ond maent hefyd wedi ein galluogi i archwilio’r egwyddorion ehangach gyda'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan unrhyw newid, y carcharorion eu hunain. Roeddent yn drafodaethau diddorol ac addysgiadol.
Ar ôl derbyn tystiolaeth, ac ar ôl ystyried a phwyso a mesur y dadleuon moesegol, ymarferol a chyfreithiol yn ofalus iawn, argymhellodd y rhan fwyaf o’r pwyllgor y dylid rhoi'r bleidlais i fwy o garcharorion. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn, wrth gwrs, yn fater dadleuol, ac roeddem yn ymwybodol iawn o'r effaith y gallai unrhyw newid ei chael ar ddioddefwyr troseddau, ac archwiliwyd hyn gyda'n holl dystion.
Rhan o gefndir y materion hyn yw'r dyfarniad fod Llywodraeth y DU wedi mynd yn groes i’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy gael gwaharddiad cyffredinol ar y bleidlais i garcharorion. Yna, cyflwynwyd newidiadau cyfyngedig, gan ganiatáu i garcharorion ar remánd ac ar drwydded dros dro, er enghraifft, bleidleisio. Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dweud yn glir nad braint yw'r hawl i bleidleisio. Maent wedi dweud y dylid cael rhagdybiaeth lle y cynhwysir cymaint o bobl â phosibl mewn democratiaeth. Mae carcharorion yn cadw hawliau eraill pan fyddant yn mynd i'r carchar. Efallai eu bod yn colli eu rhyddid, ond nid ydynt yn colli eu hawliau sylfaenol. Credaf fod pleidleisio yn hawl o’r fath.
Un o'r dadleuon mwyaf cymhellol a glywsom oedd fod carcharorion yn parhau i fod yn ddinasyddion cymdeithas. Roedd hyn yn rhywbeth a gafodd ei gyfleu’n gryf iawn yn ystod ein trafodaethau yn y carchardai. Clywsom fod llawer yn ymdrechu i barhau i fod yn rhan weithredol o fywydau eu teuluoedd, er gwaethaf y rhwystrau corfforol. Lywydd, buaswn yn dweud bod polisi cyfiawnder troseddol yn y DU yn arwain at garchardai gorlawn, diffyg adsefydlu a chyfraddau aildroseddu uchel, a bod ailintegreiddio mwy effeithiol i'r gymdeithas yn golygu llai o droseddu a llai o ddioddefwyr troseddau. Mae o fudd i'n cymunedau yn gyffredinol, yn ogystal â chyn-droseddwyr a'u teuluoedd. Gall pleidleisio fod yn arwydd bach ond arwyddocaol o ymagwedd fwy goleuedig a chynhyrchiol.
Mae cael gwared ar yr hawl i bleidleisio hefyd yn rhan o broses sy'n trin carcharorion fel dieithriaid: nid ydynt fel y gweddill ohonom a dylent gael eu trin yn wahanol. Nid yw hyn yn dda iddynt hwy ac nid yw'n dda i'r gymdeithas ehangach. Mae'n rhwystro'r broses adsefydlu ac nid yw'n helpu i leihau cyfraddau aildroseddu na chydlyniant cymdeithasol. Dywedodd llawer o randdeiliaid wrthym eu bod yn credu y byddai rhyddfreinio yn helpu. Dywedodd y Foneddiges Hale, sydd bellach yn Llywydd Goruchaf Lys y DU, y clywsom gryn dipyn amdano yn ddiweddar, y byddai cadw'r bleidlais yn annog cyfrifoldeb dinesig ac ailintegreiddio. Mae hefyd yn symbol pwysig. Er nad oes llawer o dystiolaeth empirig i gefnogi'r farn hon, cawsom ein perswadio gan y rhanddeiliaid a ddywedodd y byddai mwy o gynhwysiant pan fydd pobl yn y carchar yn helpu’r broses o adsefydlu ar ôl iddynt gael eu ryddhau. Llywiodd nifer o ddadleuon eraill ein barn derfynol, megis cynsail ryngwladol, a'r effaith anghymesur y mae'r gwaharddiad yn ei chael ar rai grwpiau o bobl.
Lywydd, roedd angen i ni ystyried wedyn sut beth fyddai'r etholfraint. Diystyrwyd ei seilio ar y math o drosedd neu ddyddiad rhyddhau, a chytunwyd i'w seilio ar hyd y ddedfryd. Ynghyd â rhai o aelodau’r pwyllgor, roeddwn yn cefnogi rhyddfreinio llawn. Fodd bynnag, ar ôl trafod yn ofalus, fe benderfynwyd argymell cynnwys carcharorion sy'n bwrw dedfrydau o lai na phedair blynedd. Roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfaddawd addas a oedd yn cydbwyso'r angen am etholfraint etholiadol syml; un sy'n hawdd ei deall, a oedd yn thema gref iawn drwy gydol ein tystiolaeth; yn ystyriol o farn y cyhoedd, sydd yn erbyn rhoi’r hawl i bob carcharor bleidleisio; ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â dyfarniad llys Ewrop. Mae hefyd yn cydnabod pa mor arwyddocaol yw dedfrydau pedair blynedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan fod y carcharorion hyn yn wynebu telerau llai ffafriol ar gyfer cael eu rhyddhau'n gynnar.
Lywydd, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad allweddol ac y bydd yn ceisio deddfu i wneud newidiadau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol. Credaf fod hyn yn dangos arweinyddiaeth wleidyddol go iawn, ac yn nodi bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran parchu hawliau dynol. Fodd bynnag, hoffwn rywfaint o eglurder pellach. Cadarnhaodd y Llywydd a'r Gweinidog mewn gohebiaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â newidiadau i etholfraint y Cynulliad. Yn ei llythyr, dywedodd y Gweinidog y byddai'n ceisio cyfrwng deddfwriaethol priodol. Ond er iddi ymrwymo i newid yr etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yn nhymor y Cynulliad hwn, ni chafwyd yr un ymrwymiad ar gyfer y Cynulliad. Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu rhywfaint o eglurder ynghylch eich syniadau ar hyn, ac a fydd y newid ar waith ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021. Mae'r darpariaethau cyfredol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cysylltu etholfreintiau etholiadol y Cynulliad a llywodraeth leol yn glir. Os nad ydych yn gwneud y newidiadau i'r ddau ar yr un pryd, Weinidog, a allwch amlinellu a ydych yn ceisio’u datgysylltu dros dro? Mae'n werth nodi'r dystiolaeth a gawsom gan y Comisiwn Etholiadol y dylent fod yn gyson.
Er fy mod wedi canolbwyntio, felly, ar y materion ehangach ynglŷn ag a ddylai carcharorion gael pleidleisio, edrychodd ein hadroddiad hefyd ar ymarferoldeb y dull o bleidleisio, gwybodaeth ac ymgyrchu. Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y materion a godwyd gan y pwyllgor yn argymhellion 5, 6 a 10 yn mynd rhagddynt. Mae'r rhain yn ymwneud yn benodol â dynodi cydgysylltydd etholiadau o blith staff y carchar, sicrhau bod pob carcharor cymwys wedi'u cofrestru i bleidleisio a'u bod yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn etholiadau perthnasol, a darparu mynediad at gyfryngau Cymru yn y carchardai sydd â phoblogaeth gymharol fawr o Gymry.
Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed barn yr Aelodau eraill ar y materion pwysig hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn ddadl ddiddorol, gan fod hwn wedi bod yn waith diddorol iawn i'r pwyllgor, ac i Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol, rwy'n siŵr.