Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 25 Medi 2019.
Nawr, er bod y pwyllgor yn credu'n gryf bod dadl gynnar yn rhywbeth y mae angen ei hwyluso ar sail barhaol yn y dyfodol, mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n cael dadl ar flaenoriaethau gwariant eleni hefyd, er ychydig yn hwyrach nag y byddem ni'n ei dymuno, o ystyried cylch gwariant diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amseriad arfaethedig cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yn dilyn yr un dull â’r gorffennol, gan ganolbwyntio ar y pedair egwyddor craffu ariannol, sef, yn gyntaf, fforddiadwyedd, hefyd blaenoriaethu, gwerth am arian, a phroses y gyllideb.
Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddigwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin i glywed barn rhanddeiliaid ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy drafod a thrwy ddilyn ymlaen o’r argymhellion wnaed yn sgil ein gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw wrth graffu eleni, ac mae'r rhain yn cynnwys sut ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran cyfradd treth incwm Cymru, a sut mae gwariant ataliol yn cael ei flaenoriaethu'n gynyddol a sut mae hynny’n cael ei gynrychioli wrth ddyrannu adnoddau. Rŷm ni’n sôn fan hyn, wrth gwrs, am wariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac yn lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrraeth gynnar, yn enwedig mewn perthynas ag ariannu byrddau iechyd lleol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maes arall y byddem ni am ganolbwyntio arno fe ydy cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n cynnwys arloesi a thrawsnewid gwasanaethau i ymateb i ofynion newidiol a newid demograffig. Mae blaenoriaethu polisi i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effaith diwygio lles hefyd yn faes pwysig. Hefyd, gwaith cynllunio a pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, wrth gwrs, a sut mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisi. Ac wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, a yw hi'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, a bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n glir yn y gyllideb?
Ar ôl y digwyddiad yn Aberystwyth, mi ysgrifennais i at holl Gadeiryddion y pwyllgorau i rannu safbwynt y Pwyllgor Cyllid â nhw ac i annog y pwyllgorau eraill i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn y ffordd fwyaf cydlynol ac effeithiol. Fel yn y gorffennol, rŷn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar ran yr holl bwyllgorau. Ac heddiw, fel mae'n digwydd, yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw, ac mi fydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf er mwyn helpu'r Cynulliad i graffu ar y gyllideb ddrafft.
Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer 2020-21 yn ddiweddar, wrth gwrs, fel rhan o gylch gwariant un flwyddyn. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys manylion am gyllideb refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cynyddu £593 miliwn yn uwch na llinell sylfaen eleni. Mewn termau real, mae hyn yn gynnydd o 2.3 y cant. Roedd y cylch gwariant hefyd yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cymru, gan olygu bod y gyllideb 2.4 y cant yn uwch mewn termau real o’i chymharu â 2019-20.
Ymatebodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’r cylch gwariant mewn datganiad ysgrifenedig ar 4 Medi eleni, gan nodi, a dwi'n dyfynnu:
'Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu'r setliad tecaf posibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.'
Ond beth mae hynny wir yn ei olygu? Mae'n ddatganiad eang a chyffredinol tu hwnt, wrth gwrs. Beth fydd y ffactorau allweddol o ran sut y caiff yr arian ychwanegol hwn ei wario yng Nghymru? Sut y dylem ni gydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn mentrau ataliol i leihau'r galw yn y dyfodol â'r angen i gefnogi ein gwasanaethau presennol, sydd, wrth gwrs, wedi dioddef blynyddoedd o gyni? A sut fyddwn ni’n asesu a yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hamcanion? Mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosib er mwyn diwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y ffordd orau, yn amlwg. Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i'r Cynulliad ystyried sut ddylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant er mwyn cyflawni'r canlyniadau dymunol yma.
Does dim dwywaith ei bod hi’n gyfnod ansicr, wrth gwrs, gyda Brexit heb gytundeb yn dal i fod yn bosibilrwydd real, a'r posibilrwydd, wrth gwrs, o etholiad cyffredinol arall yn y Deyrnas Unedig ar y gorwel, ac mae hyn oll yn ei gwneud hi'n anoddach fyth rhagweld dyfodol economaidd Cymru. Mae'r ffaith mai blwyddyn yn unig oedd hyd cylch gwariant y Deyrnas Unedig yn rhwystredig i'r holl weinyddiaethau datganoledig hefyd, gan nad yw e'n ein galluogi ni i ddatblygu cynlluniau ariannol tymor hwy, fel y byddem ni, a nifer o'r rhanddeiliaid rŷn ni wedi siarad efo nhw, wrth gwrs, yn dymuno gweld.
Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth inni gael y ddadl yma heddiw, yn fy marn i, ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn ofalus, er mwyn lliniaru, cyn belled ag y bo modd, unrhyw effeithiau yn y dyfodol yn sgil Brexit, ac er mwyn amddiffyn dyfodol ariannol Cymru a buddiannau ein dinasyddion ni. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed barn, safbwyntiau a blaenoriaethau Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yma. Diolch.