Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig y prynhawn yma ar flaenoriaethau'r gyllideb, wrth i ni symud i gyfnod hollbwysig gosod cyllideb Llywodraeth Cymru a chyfnod craffu ar gyllideb Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.
Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad i randdeiliaid yng Ngwesty'r Marine yn Aberystwyth—diwrnod heulog braf, yn ôl fel y cofiaf; mae'n ymddangos ymhell i ffwrdd yn awr. Cawsom lawer o drafodaeth yn y ddadl flaenorol am farn gwleidyddion a barn Aelodau yn y Siambr hon a siambrau tebyg i hon ynglŷn â barn y cyhoedd, felly credaf fod y digwyddiadau hynny i randdeiliaid yn hollbwysig fel ffordd o fynd allan a chanfod beth y mae pobl ar lawr gwlad, mewn busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector—beth yw eu blaenoriaethau, fel y gallwn ni, fel pwyllgor, fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru, a gallwn geisio ffurfio cyllideb sy'n wirioneddol o fudd i bawb.
Credaf iddi ddod yn amlwg, drwy gydol y digwyddiad yn Aberystwyth, fod yna gytundeb cyffredinol fod atal ac ymyrraeth gynnar yn eiriau ac yn gysyniadau allweddol a ddylai fod wrth wraidd y broses o ddyrannu'r gyllideb. Eto, y syniad craidd hwn o atal a blaengynllunio ar y naill law—yn rhy aml, teimlid bod hynny'n cael ei negyddu, neu o leiaf ei leihau, ar y llaw arall, gan y pwysau cynyddol ar gyllidebau, y mae sefydliadau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru'n rhy aml yn teimlo eu bod yn suddo oddi tano—i beidio â defnyddio ymadrodd rhy gryf. Ac mae cynllunio mwy hirdymor yn anodd iawn i'r sefydliadau hynny.
Clywsom dystiolaeth sy'n peri pryder fod llawer o awdurdodau lleol wedi cyrraedd pwynt dirlawnder—dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd ganddynt—ac na allant amsugno rhagor o gostau ychwanegol. Mae hyn yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau anstatudol, fel hamdden, diwylliant a thrafnidiaeth, sydd wedyn yn gallu cael effaith ganlyniadol negyddol ar les y boblogaeth leol. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed llawer o'r pryderon hyn gan awdurdodau lleol dros amser maith; rydym wedi eu clywed ar y pwyllgor ers cryn amser. Ac mae'n rhy hawdd meddwl, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent, am eu bod ar y talcen caled?' Ond er hynny, pan fydd y mathau hyn o wasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau lleol, yn cael eu torri, ceir sgil-effeithiau a cheir effeithiau ar gyllidebau eraill, oherwydd mae'r arian yn gorfod dod o gyllidebau eraill i ariannu'r ymrwymiadau anstatudol. Ac wrth gwrs, pan fydd pethau fel canolfannau hamdden yn gweld toriadau, a mannau diwylliannol eraill yn gweld toriadau, mae'n bosibl y bydd effaith ar lesiant lleol ac mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymdopi â'r canlyniadau.
Felly, gallwn gael ein dal mewn cylch diddiwedd, lle y ceir mwy o bwysau ar y gwasanaethau statudol, sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei ddarparu. Ac wrth gwrs, mae mwy fyth o bwysau ar y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n siarad yn gyson am faterion megis trafnidiaeth wledig yn y Siambr hon. Mae'r materion hynny'n creu mwy fyth o bwysau mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Roedd yn ddiddorol iawn fod rhanddeiliaid hefyd wedi cwestiynu fforddiadwyedd rhai o'r gwasanaethau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim, nad ydym yn trafod cymaint arnynt yn y Siambr hon bellach, ac mae'n debyg fod hynny wedi tyfu'n fwy o ran o'r dirwedd a dderbynnir. Ond pan siaradwch â rhanddeiliaid, fel y gwnaethom ni, maent yn dweud bod pethau o'r fath sy'n cael eu darparu i bawb—efallai fod yna rywbeth gwirioneddol gadarnhaol y mae pobl am ei gael, ond pan fydd cyllidebau'n dynn a bod yn rhaid i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau pwysig, teimlant fod yn rhaid iddynt edrych yn gyffredinol ar bopeth, neu fel arall fe welwch feysydd pwysig yn cael eu torri.
Cododd mater niwtraliaeth cost dro ar ôl tro. Mae'n fater allweddol i'r Pwyllgor Cyllid. Dywedir wrthym yn aml gan Lywodraeth Cymru fod deddfwriaeth newydd yn niwtral o ran cost, a chan Aelodau'n aml wrth drafod deddfwriaeth. Dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym mai anaml y mae hyn yn wir yn ymarferol, ac yn aml ceir costau cudd nad ydym yn eu gweld pan fyddwn yn edrych ar ddeddfwriaeth, ac maent yno ac yn cael effeithiau canlyniadol yn y cymunedau. Roeddent am i Lywodraeth Cymru gael gwell ffordd o asesu'r costau cudd a all ddeillio o ddeddfwriaeth a phenderfyniadau cyllidebol.
Soniwyd am Brexit yn ystod y sesiwn wrth gwrs—mae'n amhosibl ei osgoi ar hyn o bryd. Gyda llaw, i unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nid wyf yn credu bod y fath beth â Brexit 'cytundeb newydd' yn bodoli, er mor braf y gallai hynny fod. Rwy'n credu bod y rhanddeiliaid yn siarad am Brexit 'heb gytundeb' mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod dau gysyniad gwahanol wedi dod at ei gilydd yno. Efallai ei fod yn derm newydd a ddaw'n amlwg dros yr wythnosau nesaf, nid wyf yn gwybod. Ond gyda Brexit 'heb gytundeb', roeddent yn teimlo bod angen cynllunio ar gyfer hynny. Nid oedd neb y buom yn siarad â hwy eisiau Brexit 'heb gytundeb', ond roeddent yn cydnabod, os mai dyna sydd ar y gorwel, fod angen gwneud rhywfaint o waith i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau posibl yn ei sgil.
Gwyddom fod cylch gwariant Llywodraeth y DU wedi arwain at £600 miliwn ychwanegol, neu ychydig yn llai—credaf mai £593 miliwn neu £594 miliwn a ddywedodd y Cadeirydd—yn dod i mewn i gyllideb Cymru, a £18 miliwn o gyfalaf ychwanegol. Dyna gynnydd o dros 2 y cant mewn termau real, ac mae hynny i'w groesawu. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ein bod yn troi'r gornel. Rwy'n derbyn ei bod hi wedi bod yn amser hir a bod pwysau yno o hyd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'r rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy ac i bobl ledled Cymru yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—y gwasanaeth iechyd, addysg—yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, ac i reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn weld y math o welliannau y mae pobl yn awyddus iawn i'w gweld.