Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch, Rhun. Cyn i chi symud ymlaen at yr awdurdodau lleol, o ran iechyd, clywaf yr hyn a ddywedwch, a dywedais yn fy araith fy hun fod yr agenda ataliol yn hollbwysig, ond serch hynny, os oes swm sylweddol o arian yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac o ganlyniad i hynny, ein bod yn cael arian drwy swm canlyniadol yma, a fyddech yn derbyn y byddech am weld o leiaf gyfran ohono'n mynd tuag at gynyddu'r gwasanaeth iechyd mewn termau real yma, fel ein bod yn gwneud mwy na dal i fyny'n unig.