Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 25 Medi 2019.
Hoffwn gefnogi'r Aelodau sydd wedi crybwyll addysg fel blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, a hoffwn ganmol yn fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n credu ei fod yn gosod achos cryf iawn dros flaenoriaethu cyllid ysgolion i raddau helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma.
I mi, os ydym am ymwneud â gwariant ataliol, rhaid inni roi mwy o arian tuag at addysg a'n hysgolion. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am addysg bellach hefyd, a chredaf fod y maes hwnnw wedi'i anwybyddu braidd o ran cyllid digonol ac y dylid darparu'n well ar ei gyfer. Ond mae'r achos hanfodol, rwy'n meddwl, dros ariannu ysgolion oherwydd pwysigrwydd hynny i gynifer o'n pobl ifanc, a chyllid addysg blynyddoedd cynnar a blynyddoedd cynnar yn gyffredinol wrth gwrs. Oherwydd os ydym am fod yn ataliol, rwy'n credu bod addysg yn gwneud popeth i ni bron iawn. Mae addysg yn dda yn ei hawl ei hun. Mae'n hynod o bwysig o ran datblygiad personol. Rwy'n credu bod llawer o astudiaethau ledled y byd yn dangos, os ydych yn blaenoriaethu gwariant ar addysg, y bydd gennych economi lawer cryfach, ac mewn gwirionedd dyma'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud. Os ydych am adeiladu eich economi, rhowch arian tuag at addysg.
Hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn i iechyd. Mae pobl sydd wedi cael addysg well yn mwynhau gwell iechyd drwy gydol eu bywydau a lles gwell, ac ansawdd bywyd gwell yn gyffredinol. Maent yn cael mwy o gyfleoedd, gwell gyrfaoedd; mae'n fuddiol ym mhob ffordd. Mae hefyd yn bwysig iawn o ran diwylliant a'r amgylchedd yn wir. Felly, os edrychwn ar bethau yn eu cyfanrwydd ac ar atal, rwy'n credu y byddem yn cael ein hysgogi i roi mwy o arian tuag at addysg, a cheir sylfaen dystiolaeth gref iawn dros wneud hynny. Dyna pam rwy'n cytuno'n fawr ag adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n credu y dylai rhan o hynny—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y gorffennol—fod yn gyllid mwy effeithiol ar gyfer ysgolion bro, oherwydd eu bod yn adnodd sy'n bodoli'n barod, onid ydynt, ein hysgolion, yr adeiladau, y tiroedd, y cyfleusterau, ac yn rhy aml ni chânt eu defnyddio'n ddigon da yn ystod gwyliau'r ysgol, ar benwythnosau, gyda'r nos. Mae hynny'n wastraff ofnadwy ar adnoddau presennol, onid yw? Er bod rhai arferion da, ni cheir hanner digon, ac rwy'n credu bod angen i ni ddarparu mecanwaith ariannu effeithiol sy'n sicrhau bod ysgolion bro yn gweithredu'n effeithiol ledled Cymru.
Daw hynny â mwy o gyfleoedd yn ei sgil, oherwydd ceir llawer o blant nad ydynt yn cael profiad o dacsi mam neu dad—na thacsi mam-gu neu dad-cu hyd yn oed—o ran y cyfleoedd ehangach i ddatblygu eu galluoedd a'u doniau. Nid ydynt yn mynd i'r gweithgareddau a'r clybiau fel y gallent. Os caiff ei ddarparu ar dir yr ysgol fel rhan o estyniad i'r diwrnod ysgol, bydd llawer iawn mwy o deuluoedd, yn enwedig teuluoedd o amgylchiadau difreintiedig, yn cael cyfleoedd ehangach o'r fath, ac mae ysgolion bro yn allweddol i hynny.
Un peth arall yr hoffwn ei grybwyll—ac unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn bendant yn perthyn i'r agenda ataliol—yw gwasanaethau ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd y pwysau sydd ar lywodraeth leol ac eraill, gwelsom lawer gormod o doriadau i glybiau ieuenctid, gweithgareddau ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid yn gyffredinol, ac mae hynny'n wirioneddol ataliol. Mae'r heddlu'n deall hynny. Mae llywodraeth leol yn deall hynny. Mae'r sector gwirfoddol yn deall hynny. Pan fyddwch yn mynd o gwmpas yn curo drysau, maent yn deall hynny, ond oherwydd y pwysau y mae 10 neu fwy o flynyddoedd o gyni wedi'i achosi, rydym wedi gweld llawer gormod o doriadau i'r ddarpariaeth hynod werthfawr honno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y gallwn gynnal y ddarpariaeth sy'n weddill, ond adeiladu hefyd y tu hwnt i lefelau'r ddarpariaeth a fu gennym yn y blynyddoedd a fu.