Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb ac rwy'n parhau i bryderu bod nifer o agweddau ansicr ynghlwm wrth gylch gwariant diweddar y DU o hyd—er enghraifft, y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael, unwaith eto, ag ateb hirdymor i ariannu gofal cymdeithasol. Tra'n bod yn ceisio canfod ein hatebion ein hunain i'r her honno, byddai'n help cael gwybod yn union beth yw cynlluniau ariannu hirdymor Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Credaf fod hwnnw'n fethiant mawr yng nghynllun gwariant diweddar y DU, ac mae'n taflu cysgod dros un o'r heriau hirdymor allweddol a wynebwn yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, yma yng Nghymru rwy'n croesawu'r arwydd a roddwyd gan y Gweinidog yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r flaenoriaeth yr ydym yn iawn i'w roi i GIG Cymru, ein bod yn bwriadu edrych yn ofalus ar y setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â'r ffyrdd y gwerir arian ar wasanaethau lleol, ond mae'n amlwg i bob un ohonom, er gwaethaf setliadau llawer iawn mwy hael yng Nghymru o gymharu â Lloegr, fod ein cynghorau o dan bwysau difrifol er hynny, a rhaid inni wneud rhagor i geisio cynnal gwasanaethau lleol. Yn anffodus, gwyddom fod cynllun gwariant blwyddyn y DU yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r tymor byr, gan gefnu ar strategaeth ac uchelgais hirdymor er mwyn ambell gyhoeddiad poblogaidd yn y tymor byr. Felly, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor Cyllid, o'r hyn a ddarllenaf, efallai ein bod yn dal i wynebu rhai o'r cyfyngiadau ar ein gweithredoedd oherwydd nad yw'r cynllun DU ond yn ymwneud â'r flwyddyn 2020-21 yn unig.
Nawr, fel y mae eraill wedi dweud yn barod, rydym yn gwybod bod canolbwyntio ar atal mewn iechyd a gofal, ac edrych ar gynllunio mwy hirdymor yn ein gwariant cyhoeddus, yn sylfaen y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arni. Felly, law yn llaw â'r ansicrwydd a wynebwn, efallai y gall y gyllideb Gymreig sydd ar y ffordd lywio cydflaenoriaethau pellach rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Oherwydd os cred y ddwy mai gwario at ddiben hirdymor clir yw'r peth cywir i'w wneud, mae'n amlwg y dylid llunio cytundeb newydd er mwyn inni sicrhau diben sy'n gyffredin rhyngom a llywodraeth leol, boed hynny yn y ddadl ynghylch ysgolion ac addysg neu'r galwadau am ofal cymdeithasol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, neu ddarparu gwasanaethau hamdden hanfodol sy'n gallu darparu pethau fel presgripsiynu cymdeithasol, sydd, yn y tymor hwy, yn helpu i liniaru peth o'r pwysau cynyddol ar y GIG. Os oes diben cyffredin, yna gadewch iddo fod yn gytundeb cyffredin i gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy lywodraeth leol.
Nawr, oherwydd natur fyrdymor y setliad ariannu a wynebwn eleni, efallai nad dyma'r amser i ystyried hyn, ond rwy'n meddwl tybed oni ddylem ddechrau meddwl mwy am iechyd a gofal cymdeithasol, nid fel portffolio integredig ar gyfer Gweinidog yn unig, ond hefyd o ran realiti cyllidebau ar y cyd i ddarparu ateb mwy hyblyg, ymatebol yn y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hynny. Credaf mai dyna'r pwynt yr oedd Rhun yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad, o ran sut y darparwn y gwasanaethau integredig hynny. Fel y dywedaf, efallai fod hon yn ystyriaeth ar gyfer y tymor hwy y bydd yn rhaid inni ddychwelyd ati, ond heddiw credaf mai'r brif neges i'r cylch cyllidebol hwn yw rhoi'r gallu i awdurdodau lleol nid yn unig i weithredu, ond i ddechrau adfer a darparu'r gwasanaethau lleol a gafodd eu taro mor wael gan flynyddoedd caled o gyni. Efallai mai dim ond dechrau'r broses y gallwn ei wneud y flwyddyn hon, ond mae hyd yn oed y daith hiraf yn gorfod dechrau gydag un cam.