Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 25 Medi 2019.
Mae'n rhaid eich bod wedi disgwyl i mi godi gyda'r sylw hwnnw. Fel y dywedais wrthych o'r blaen mewn cwestiynau, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chymharu'r ffigurau â 2010-2011—mae'n dal i fod ffordd bell i fynd—ond rhaid i chi hyd yn oed dderbyn, pan fyddwch yn optimistaidd, Weinidog, fod hyn, o'i gymharu â'r llynedd, yn gynnydd o fwy na 2 y cant mewn termau real—mewn termau real. Felly, bydd yn bendant yn gwella cyllideb Cymru y flwyddyn nesaf.