6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:29, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, yn seiliedig ar y trafodaethau a gawsom o'r blaen yn y Siambr, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud hynny. Nid oeddwn yn mynd i oedi'n hir ar hynny y prynhawn yma, yn enwedig ar ôl yr hyn y credaf iddi fod yn ddadl adeiladol a defnyddiol. Ond mae'n deg dweud y byddwn yn dal i wynebu risgiau mawr a rhywfaint o ansicrwydd wrth i ni wneud ein paratoadau. Er enghraifft, mae amseriad a chynnwys cyllideb yr Hydref y DU yn parhau'n aneglur, ynghyd â goblygiadau Brexit a'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' ar ein cynigion gwariant. Felly, rydym angen i'r disgwyliadau fod yn ofalus yn y cyd-destun ehangach hwnnw.

Ond yn ystod fy ymweliadau dros yr haf, cafodd nifer o faterion pwysig eu dwyn i fy sylw gan randdeiliaid ac fel y clywsom eto y prynhawn yma, mae'r gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir gyda chyllidebau sefydlog ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn aml yn cael ei grybwyll fel problem. A'n huchelgais bob amser yw darparu eglurder mwy hirdymor ynglŷn â chyllidebau lle bynnag y bo modd, ond rhaid cydbwyso hyn â rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol, ac nid oes gennym rai y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Ond er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, rwyf wedi cyflwyno ein cynlluniau i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru, a gallaf gadarnhau, gyda chytundeb y pwyllgorau cyllid a busnes, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano, y byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ddrafft yn gynt ar 19 Tachwedd a'r gyllideb derfynol ar 4 Chwefror.

Yn ystod fy ymweliadau a fy nghyfarfodydd a fy ngwaith ymgysylltu ehangach, gwelwyd bod llawer o gefnogaeth i'r ymagwedd ataliol tuag at fuddsoddi y clywsom amdani y prynhawn yma, ac mae wedi bod yn thema eithaf amlwg yn y cyllidebau diweddar. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd ariannu gweithgarwch ataliol a'i botensial i gael effaith drawsnewidiol ar wasanaethau cyhoeddus ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae dulliau ataliol fel prosiect I CAN yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth ddyrannu cyllidebau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid yw Brexit byth yn bell o fy meddwl. Rwyf wedi ymweld â llawer o gymunedau sydd wedi elwa o gyllid yr UE yn y gorffennol ac mae pryderon, yn amlwg, ynghylch cyllid ar ôl Brexit. Drwy fy holl ymweliadau a chyfarfodydd, roedd dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond er gwaethaf hyn, cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed sut y mae gwasanaethau'n gyffredinol yn ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn ymateb i'r her. Felly, wedi fy ysgogi gan y sgyrsiau hyn, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol tua'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Mae'r holl sgyrsiau hyn yn llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Tachwedd. Bydd y gyllideb yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth lle y gallwn gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y presennol a'r dyfodol, a darparu'r gwasanaethau a'r canlyniadau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Diolch.