Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall pam y byddai'n well gan Blaid Cymru fod yn rhanbarth mewn casgliad enfawr o ranbarthau'n ymestyn o'r Môr Baltig i'r Môr Aegeaidd, yn hytrach na bod yn genedl mewn undod o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthych yn gwbl bendant na fyddech yn cael eich cydnabod yn genedl yn Ewrop.