Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi'r pwysau y gallan nhw ar Lywodraeth y DU o ran cefnogi morlyn llanw i fae Abertawe. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Lafur y DU wedi dweud y byddai'n rhywbeth y byddai'n awyddus i geisio ei gyflwyno pe byddai yn y sefyllfa o allu ffurfio Llywodraeth. Ond mae'n bwysig bod yr holl faterion hynny yn ymwneud â'r drwydded forol yn cael eu hystyried yn llawn. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a materion gwledig yn gwbl ymwybodol o'r rheini, a byddem yn ystyried hynny ochr yn ochr ag unrhyw rwystrau posibl eraill y byddai'n rhaid i ni eu goresgyn wrth i'r prosiect, gobeithio, symud yn ei flaen.