Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 1 Hydref 2019.
Trefnydd, er nad oedd y cynlluniau cychwynnol yn ffafriol, ni ellir gorbwysleisio'r potensial i forlynnoedd llanw fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd a'n hargyfwng ynni sydd ar ddod. Trefnydd, un ffordd ddelfrydol o dreialu'r dechnoleg fyddai drwy brosiect ar raddfa lai ar y cyd â defnyddiwr ynni trwm. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried menter ar y cyd â gwaith dur Port Talbot er mwyn dangos potensial morlynnoedd llanw i ddatgarboneiddio ein cyflenwad ynni?