Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:41, 1 Hydref 2019

Diolch, Llywydd. Trefnydd, mi gafodd llawer o bobl eu dychryn yr wythnos diwethaf gan beth o ddewis iaith Prif Weinidog Prydain yn Nhŷ'r Cyffredin, eu dychryn y byddai fo yn gallu bod mor ddi-hid o ofnau Aelodau Seneddol ynglŷn â thrais corfforol yn eu herbyn, a'i fod o mor barod i amharchu'r cof am Aelod Seneddol gafodd ei llofruddio oherwydd ei daliadau. Ar ba bynnag ochr i'r ddadl Brexit mae rhywun, a wnewch chi ymuno â fi i gondemnio yr hyn glywon ni gan un sydd i fod i ddangos arweiniad?