Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 1 Hydref 2019.
Yn sicr mi wnaf i ymuno â chi, a byddwn yn atodi fy enw i ac enw'r Llywodraeth, ac rwy'n siŵr ein plaid yn ei chyfanrwydd, o ran cael ein syfrdanu'n llwyr gan yr iaith a ddefnyddiwyd gan Brif Weinidog y DU o ran rhywbeth cwbl ddinistriol ac ofnadwy sydd wedi digwydd. Ac rydym ni'n ei ddeall fel cynrychiolwyr etholedig, ond byddai gan Jo deulu—mi oedd ganddi deulu yn amlwg—y mae hyn wedi peri loes dybryd iddo. Y cwbl y mae'r math o iaith y mae'r Prif Weinidog yn ei ddefnyddio yn ei wneud yw pentyrru mwy o loes ar ben hynny.