Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 1 Hydref 2019.
Bron yn syth gallai Brexit heb gytundeb achosi anherefn difrifol i'r rhwydwaith trafnidiaeth a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn gweld yr effaith hon gan fod rhaid i ni wneud penderfyniadau ar sail y dybiaeth y byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Er nad oes modd diystyru gwaith brys os oes ei angen, ni fydd unrhyw waith yn cael ei gynllunio i gau lonydd yn ystod y dydd ar yr A55 tua'r gorllewin rhwng 31 Hydref a diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau na fydd unrhyw darfu o ganlyniad i wiriadau'r tollau yng Nghaergybi yn cael ei gymhlethu gan unrhyw waith ar yr A55. Fodd bynnag, bydd hyn yn effeithio ar ein rhaglen waith ffordd, rhywbeth y gellid yn hawdd fod wedi'i osgoi heb Brexit dinistriol a fyddai'n ein taflu dros y dibyn.
Ni allwn ni fynd i'r afael â holl achosion yr amhariad hwn, gyda threfniadau ffin a phrosesau tollau yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio'n agos gyda phorthladdoedd yng Nghymru, y cwmnïau fferi a phartneriaid lleol i reoli unrhyw darfu ar y traffig o ganlyniad yn ddiogel. Ein nod yw lleihau effaith annhrefn yn y porthladd ar draffig lleol o gwmpas Caergybi a sicrhau bod pobl leol yn gallu parhau i deithio. O ran Doc Penfro ac Abergwaun, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gellid rheoli achosion o oedi wrth reoli cerbydau yn y porthladd. Rydym ni hefyd yn cadw golwg ar hyn yn gyson rhag ofn y bydd angen mesurau wrth gefn ychwanegol.
Mae'n hanfodol sicrhau bod llif y traffig ar y ffin mor llyfn â phosib, a bod gan gludwyr y dogfennau cywir ar ôl cyrraedd porthladdoedd i'w galluogi i deithio. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau fferi i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn ymwybodol o'r ddogfennaeth y bydd ei hangen arnynt ac rydym yn annog pob cludwr sy'n cyrraedd porthladdoedd fferi Cymru i gael y ddogfennaeth gywir yn barod, ac osgoi'r perygl o gael eu troi ymaith.
Rwyf wedi amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth lawer gwaith yn y Siambr hon, ac nid wyf eisiau eu gweld yn cael eu difetha gan sefyllfa ddiofyn o Brexit heb gytundeb. Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau y byddai Brexit heb gytundeb yn eu creu, bydd yn parhau i fod yn hanfodol i fuddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth a phwyso i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n rhoi hwb hanfodol i economi Cymru ar adeg o ansefydlogrwydd economaidd.
Gan droi at yr economi a pharodrwydd busnes, mae effeithiau Brexit wedi cael eu teimlo ers peth amser bellach, a byddant yn parhau i effeithio ar hyder busnesau ar ôl ymadael. Nid mater o'r diwrnod cyntaf ar ôl ein hymadawiad yn unig yw hwn. Ond o ran parodrwydd ar gyfer y diwrnod cyntaf hwnnw, fe'm sicrheir bod ein gwasanaethau rheng flaen i fusnesau ac unigolion yn barod i ymateb, gydag, er enghraifft, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru bellach mewn sefyllfa i ryddhau adnoddau dynol ac ariannol yn hyblyg ac yn gyflym.
Yn arwain at y diwrnod ymadael, rydym yn parhau i dynnu sylw at gamau gweithredu 'cost isel, dim difaru' ar gyfer busnesau. Rydym yn cylchredeg gwybodaeth drwy rwydweithiau busnes ac rydym ni hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at dros 18,500 o fusnesau. Achubaf ar y cyfle hwn i annog pob busnes i gofrestru i gael gohebiaeth reolaidd drwy Busnes Cymru, i ddefnyddio ein porth Brexit a'n hofferyn diagnostig, ac i drafod â'u cyrff masnach a'u sefydliadau cynrychioliadol.
Rwy'n cydnabod mor hanfodol yw hi ein bod yn trefnu dull cydgysylltiedig a chynaliadwy o weithredu pan fydd busnesau a'u gweithwyr yn wynebu cwtogi a, neu dorri swyddi. Gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o ymyriadau'r gorffennol a'r presennol, yn y dyfodol bydd ein hymateb yn seiliedig ar ddull rhanbarthol o weithredu, gan gyd-fynd â'r model datblygu economaidd rhanbarthol a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd.
Mae'r Llywodraeth hon yn glir y bydd parhau i gefnogi ac, yn wir, cryfhau sut y byddwn yn mynd i'r afael â sefyllfaoedd swyddi a sgiliau yn hollbwysig yn ein hymateb i Brexit. Rydym ni eisiau sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus i gyflawni ein huchelgais economaidd fel y'i nodir yn y cynllun gweithredu economaidd a 'Dyfodol mwy disglair i Gymru'. Mae ein dull yn adeiladu ar y systemau cefnogi busnesau, unigolion a chymunedau sydd wedi eu profi ac y mae parch iddynt. Byddwn yn ymatebol ac yn gefnogol i anghenion pobl sy'n colli eu swyddi a chyflogwyr, yn wir, sydd â chyfleoedd, fel y caiff y bobl a'r sgiliau eu paru mor gyflym â phosib, ac yn rhoi cymorth, wrth gwrs, i gyflogwyr y mae angen iddyn nhw ddatblygu eu gweithlu.
Cymru'n Gweithio yw ein hadnodd newydd i droi ato a byddwn yn sicrhau y caiff unigolion eu cyfeirio i'r lle cywir ar yr adeg gywir. Yn ogystal â hynny, rwyf wedi sefydlu timau ymateb rhanbarthol, fydd yn gweithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol a phartneriaid megis byrddau iechyd lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Leol, i weithredu mewn ffordd draws-lywodraethol, gydweithredol er mwyn sicrhau bod modd cael ymateb rhanbarthol ar lefel gymunedol.
Mae derbyniad brwd o hyd i'r cymorth yr ydym yn ei roi i fusnes ac rwy'n ddiolchgar i'r holl arweinwyr busnes a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli sy'n parhau i lywio ein ffordd o weithio gan herio'n gadarnhaol. Mae cyfres o gamau gweithredu sy'n defnyddio cyllid pontio Ewropeaidd wedi'u cymeradwyo i helpu busnesau i feithrin cydnerthedd, mae £9.2 miliwn ar gael ar draws chwe phrosiect sy'n darparu cymorth a chyngor ynghylch masnach ac allforion, gan alluogi cynyddu capasiti a gweithgareddau cyfathrebu, yn ogystal â chynnig cymorth ariannol drwy grantiau cydnerthedd busnes i fusnesau cymwys.
At hynny, wrth imi drafod â busnesau ledled Cymru, mae'n rhoi sicrwydd mawr imi fod mwy a mwy o fusnesau bach a chanolig yn darganfod sut y gall gweithio gyda Banc Datblygu Cymru eu helpu i wireddu eu huchelgeisiau a goresgyn eu heriau. Erbyn hyn mae gan Banc Datblygu Cymru dros £0.5 biliwn mewn amrywiol gronfeydd sy'n hygyrch i fusnesau bach a chanolig ac mae bellach mewn sefyllfa i chwarae rhan allweddol yn ein hymateb i Brexit.
Mae'r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i ni yng Nghymru i fynd i'r afael â heriau Brexit yn dibynnu ar gyllid a ryddheir gan Lywodraeth y DU. Rwy'n dyheu am gynnydd yn y cyfarfod pedairochrog y bu disgwyl mawr amdano bellach gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Andrea Leadsom. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ystyried barn y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn ac mai dim ond drwy ymgysylltu strwythuredig y gall wneud hyn. Rwy'n siomedig, felly, fod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Llun nesaf, y bu cynllunio maith ar ei gyfer, bellach wedi'i ohirio. Pan fyddwn yn cyfarfod, byddaf yn pwyso am eglurder a chymorth ariannol os bydd ysgytwad economaidd sylweddol, ac yn gwrthwynebu'n gryf iawn gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin arfaethedig.
Fy ymrwymiad i yw gwneud popeth o fewn fy mhwerau i feithrin twf cynhwysol i Gymru, gan greu amgylchiadau lle mae busnesau'n ffynnu a lle mae cymunedau ledled Cymru yn elwa.