Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 1 Hydref 2019.
Mae Rhun ap Iorwerth yn gywir i ddweud y bydd ansicrwydd yr ysgariad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl pob tebyg, yn para am flynyddoedd. Roedd llawer o academyddion amlwg yn dweud yn ystod ymgyrch y refferendwm—wrth gwrs, ni chlywyd eu lleisiau gan lawer, yn anffodus, ond roedden nhw'n dweud yn gyson ac yn rymus, yn fy marn i, y byddai'n cymryd blynyddoedd i'r ysgariad ddigwydd ac yna i gytuno ar drefniadau dilynol ar gyfer cytundebau masnachu newydd, ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, ni allai economi Cymru a'r DU dim ond crebachu oherwydd yr ansicrwydd a'r tarfu a achosid gan hyn.
Ac mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae'r problemau yr ydym ni yn awr yn eu hwynebu heddiw yn ganlyniad uniongyrchol i'r ddau ddewis a gynigiwyd i bleidleiswyr yn y refferendwm rhwng sicrwydd y sefyllfa fel yr oedd hi a dim byd mwy na syniad, heb unrhyw fanylder. Dyma'r ddau ddewis a gyflwynwyd i bobl heb roi unrhyw ystyriaeth i'r posibilrwydd o ddiwygio'r UE ymhellach. Ac rwy'n credu hefyd, pe bai Llywodraeth y cyfnod hwnnw wedi gallu cynnig rhyw fath o gytundeb o leiaf gyda'r UE a rhoi'r dewis hwnnw i bobl y DU, y byddai'r bobl wedi penderfynu'n fwy gwybodus. Credaf hefyd y byddai hynny wedi golygu y byddai pleidlais i aros wedi bod yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa sydd ohoni, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau breision wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb—mae'n rhaid inni; mae'n gyfrifoldeb arnom ni. Ac, o ran y cyllid a all fod ar gael, hyd yn hyn, nid yw'r prosiect Kingfisher, sy'n nodi'r busnesau hynny sydd mewn perygl o gau, y busnesau hynny a allai adael ein glannau, wedi gwneud dim mwy na chasglu a rhannu gwybodaeth. Rydym ni wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth y DU, i gefnogi'r prosiect Kingfisher, bod yn rhaid i arian fod ar gael. Rydym ni'n amcangyfrif, er mwyn ymdrin â'r galwadau ar Lywodraeth Cymru am gymorth brys, y byddai angen i ni weld cronfa dyfodol yr economi yn cynyddu o'r £10 miliwn presennol i £35 miliwn o leiaf. A gobeithiaf y bydd Llywodraeth y DU yn parchu hynny pan fydd yn ystyried pa fath o gyllid a fydd ar gael.
Ond rhan fach yn unig fyddai hyn o'r ymateb a'r gefnogaeth ariannol y byddai gofyn i'r Llywodraeth hon ei rhoi i fusnesau ledled Cymru. Yn ogystal â hynny, mae'r banc datblygu gennym ni, ac, fel y dywedais eisoes, mae gan hwnnw £0.5 biliwn o gronfeydd amrywiol ar gael y gellid eu defnyddio i gefnogi busnesau. Ar hyn o bryd, mae'r banc datblygu yn edrych ar sut y gall sicrhau y caiff staff eu hadleoli i'r rheng flaen os bydd Brexit heb gytundeb. Mae'n ystyried symud tua 200 o aelodau o staff i wasanaethau rheng flaen. Hefyd, mae Busnes Cymru wedi cadarnhau eu bod yn barod i ddargyfeirio 20 aelod o staff i'r rheng flaen, yn ogystal â'r 74 sydd eisoes yn weithredol, ac mae Llywodraeth Cymru, yn ogystal, yn fy adran i yn unig, yn ystyried adleoli 100 o aelodau staff—mwy na 500 o bobl yn cael eu hanfon i faes gweithgarwch y gellid bod wedi ei osgoi.
O ran yr A55, gallaf ddweud wrth Aelodau heddiw imi wneud penderfyniad anodd iawn yn ddiweddar i ohirio prosiect o wella wyneb y ffordd ar hyd un darn penodol o'r A55 gan fod y gwaith wedi'i raglennu i ddigwydd yn yr wythnos y gallem ni adael yr UE yn ddisymwth. Nid oeddwn eisiau gweld tarfu ar yr A55 tra bod tarfu hefyd ym mhorthladd Caergybi o ganlyniad i ymadael yn ddisymwth â'r UE. Mae goblygiadau gwirioneddol o ran gohirio gwaith ffordd. Mae'n golygu mai dim ond cynyddu bydd yr ôl-groniad. Mae'n golygu, yn nes ymlaen, y bydd mwy o darfu o ganlyniad i'r gwaith hanfodol. Byddai'r gwaith penodol hwnnw a oedd fod i ddigwydd ddiwedd mis Hydref wedi arwain at leihad yn y sŵn sy'n dod o'r ffordd i eiddo sy'n ffinio â'r A55. Byddai'n dda o beth pe gallem ni fod wedi bwrw iddi gyda'r gwaith hwn, ond, o ganlyniad i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi oherwydd Brexit, bu'n rhaid inni wneud y penderfyniad cyfrifol a gohirio'r ymyriad penodol hwnnw.
Draw ym mhorthladd Caergybi, mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le wrth ddweud ar y safle, a chydag ardal arall yr ydym ni wedi gallu ei sicrhau, bydd lle i ychydig llai na mil o gerbydau nwyddau trwm. Os bydd angen rhagor o le, ein cynigion yw defnyddio ochr yr A55 tua'r gorllewin a chael traffig gwrthlif ar ochr ddwyreiniol yr A55 yn y porthladd. Rydym yn dymuno tarfu cyn lleied â phosib ar borthladd Caergybi, ond ni allwn ni warantu, os na fydd dogfennaeth briodol gan gludwyr, na chânt eu troi'n ôl ac na fyddant yn gorfod ffurfio rhesi aros, ond hoffem osgoi hyn os oes modd. Yn wir, rydym ni'n gweithio gyda'r cwmnïau fferi sydd, yn eu tro, yn gweithio gyda busnesau cludo nwyddau, ac rwy'n falch o ddweud bod arwyddion ar draws y ffin bellach ar draffyrdd allweddol yn Lloegr fel y gall cwmnïau cludo nwyddau eu gweld yn glir, ar yr M6 a thraffyrdd eraill yn Lloegr, i annog cwmnïau cludo nwyddau i sicrhau bod ganddyn nhw'r dogfennau cywir ddiwedd mis Hydref pan fyddant yn cyrraedd porthladd Caergybi.