Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 1 Hydref 2019.
Byddwn ni yn talu gwerth llawn eu cynllun taliad sylfaenol 2019 i ffermwyr o 2 Rhagfyr. Er mwyn sicrhau nad yw unrhyw fusnes ar ei golled, rydym ni wedi sefydlu cynllun benthyciadau sy'n caniatáu i ni dalu hyd at 90 y cant o'r gwerth a ragwelir ar gyfer hawliadau nad ydynt wedi'u dilysu. Rydym ni wedi gweithio gyda gweithgynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd a gweinyddiaethau eraill ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwi bwyd. Efallai y bydd rhywfaint o ostyngiad yn y dewis o fwydydd sydd ar gael, yn enwedig rhai ffrwythau a llysiau ffres sy'n dod o'r UE. Mae archfarchnadoedd wedi fy sicrhau eu bod wedi ymrwymo i gyflenwi eu holl siopau'n deg, pa un ag ydyn nhw mewn ardaloedd trefol neu wledig.
Mae llawer o'r cemegau a ddefnyddir i sicrhau cyflenwad dŵr glân yn dod o'r UE. Rydym ni'n gweithio gyda'n cwmnïau dŵr, ac rwy'n hyderus bod eu cynlluniau lliniaru cadarn yn sicrhau na fydd, ar y cyfan, unrhyw effaith ar wasanaethau dŵr cyhoeddus. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiogelwch ynni a marchnadoedd. Rydym ni wedi gweithio gyda BEIS i sicrhau bod eu paratoadau'n diwallu anghenion Cymru. Mae BEIS wedi fy sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r cyflenwad trydan, nwy na thanwydd. Mae yna bryderon ynghylch diogelu'r amgylchedd ar ôl gadael. Bydd yr holl fesurau diogelu amgylcheddol deddfwriaethol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael eu cadw. Mae swyddogaeth llywodraethu amgylcheddol y tu allan i Ewrop yn gymhleth ac rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dull gweithredu syml dros dro a'r trefniadau hirdymor angenrheidiol.
Er fy mod yn hyderus yn ein paratoadau, nid wyf yn hunanfodlon. Byddai'n ffuantus dweud nad oedd unrhyw risgiau. Er y gallwn ni liniaru rhai risgiau, mae eraill y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, os na fydd y DU yn cael statws trydedd wlad gan yr UE, bydd allforio cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion yn dod i ben. Mae cynigion i sicrhau hyn yn cael eu trafod â'r UE. Rydym ni'n disgwyl oedi sylweddol mewn porthladdoedd yn ôl dogfen Operation Yellowhammer. Yn achos pysgod cregyn sy'n cael eu hallforio'n fyw, gallai'r oedi hwnnw olygu'r gwahaniaeth rhwng dalfeydd yn cyrraedd y cyfandir ar eu gorau, neu bod y llwyth wedi'i ddifetha. Bydd ein pysgotwyr yn wynebu beichiau gweinyddol newydd, megis tystysgrifau dalfeydd allforio ac iechyd allforio. Er mwyn roi hyn yn ei gyd-destun, mae'n bosibl y bydd nifer y tystysgrifau iechyd allforio a gyhoeddir yng Nghymru bob blwyddyn yn cynyddu ddengwaith.
Yn yr un modd, mae ein hallforion cig oen ni bron i gyd yn mynd i'r UE. Bydd tariffau yn ei gwneud yn anodd i gig oen Cymru gystadlu yn y farchnad Ewropeaidd. Mae gwaith dwys ar y gweill gyda DEFRA i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i atal y sectorau hyn sy'n agored i niwed rhag diflannu yn yr wythnosau yn dilyn gadael heb gytundeb. Byddai'r cynlluniau hyn yn helpu'r sectorau hyn i wrthsefyll effeithiau cychwynnol Brexit heb gytundeb. Fodd bynnag, rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y cymorth hwn, nad ydyn nhw eto wedi ymrwymo i'w ddarparu. Rydym ni'n cefnogi ffermwyr yn y cyfnod anodd hwn: rydym ni wedi ailargraffu'r llyfryn 'Ffit i Ffermio', wedi lansio partneriaeth elusennau, ac wedi ariannu sefydliad DPJ i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i ffermwyr Cymru. Rydym ni hefyd yn hyrwyddo lles ein pysgotwyr.
Nid yw'r holl baratoadau ar gyfer Brexit o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch parodrwydd busnesau. Mae'n hanfodol bod pob diwydiant yn paratoi ar gyfer Brexit. Mae gwefan Paratoi Cymru yn ffynhonnell allweddol o gyngor, a gofynnaf i chi annog busnesau yn eich etholaethau i ymweld â'r wefan a sicrhau eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen arnyn nhw i baratoi. Ar y cyd ag Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, ysgrifennais at fusnesau bwyd a diod Cymru i atgyfnerthu'r neges hon. Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni'n gwneud popeth sydd o dan ein rheolaeth i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb. Rwy'n hyderus y byddwn ni mor barod â phosibl erbyn diwedd y mis hwn. Fodd bynnag, bydd y ffactorau sy'n parhau i fod y tu allan i'n dylanwad uniongyrchol yn effeithio'n sylweddol ar barodrwydd cyffredinol Cymru—parodrwydd busnes, gweithrediadau wrth ffiniau'r DU a'r drefn tariff, yn allweddol.