– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 1 Hydref 2019.
Eitem 5 ar ein hagenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar baratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar unwaith ac yn yr hirdymor ar gymunedau gwledig. Bydd yr effeithiau hyn yn arbennig o ddifrifol yn fy mhortffolio i. Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro dro ar ôl tro na ddylem ni adael heb gytundeb sy'n diogelu buddiannau'r amgylchedd, busnesau a dinasyddion. Yn grŵp rhyngweinidogol yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig ar 9 Medi, mynegais bryderon difrifol ynghylch ymgais Llywodraeth y DU i adael yr UE ar unrhyw gost. Mae'r sectorau ffermio, pysgodfeydd, bwyd a diod yn dibynnu ar fewnforion ac allforion di-dariff drwy ffiniau agored â'r UE. Mae'r sectorau hyn hefyd yn dibynnu ar weithwyr yr UE. Byddai gadael heb gytundeb, a'r tariffau a'r rhwystrau sy'n codi o ran masnach, yn ddinistriol i gyflogaeth ac economi cymunedau gwledig ac arfordirol sy'n dibynnu ar y sectorau hyn a'u cadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Mae'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth a systemau fy mhortffolio i yn deillio o aelodaeth yr UE, o gefnogi ffermwyr i reoli ein pysgodfeydd, o amddiffyniadau amgylcheddol i enwau bwyd gwarchodedig i hyrwyddo ein cynnyrch o safon. Yn hytrach na dileu biwrocratiaeth, bydd gadael yr UE heb unrhyw gytundeb yn cyflwyno biwrocratiaeth lle nad yw'n bodoli—datganiadau tollau, tystysgrifau iechyd allforio, tystysgrifau dalfa pysgodfeydd a gwiriadau ffiniau. Gallai hyn arwain at oedi, costau ychwanegol i fusnesau a phrisiau cynyddol i ddefnyddwyr. Felly, er ein bod yn parhau i ddadlau yn erbyn gadael heb gytundeb, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i baratoi ar ei gyfer. Rydym ni wedi gweithio gyda'n rhanddeiliaid a gweinyddiaethau eraill i sicrhau ein bod yn barod. Gyda bygythiad gwirioneddol gadael heb gytundeb, mae ein sylw ni ar gynllunio wrth gefn ar gyfer gadael y mis hwn.
Mae diwygio ddeddfwriaeth yr UE a gedwir i sicrhau bod yr un pwerau ac amddiffyniadau ar waith wedi bod yn dasg enfawr. Os byddwn ni'n gadael ar 31 Hydref, rwy'n hyderus y bydd gennym ni lyfr statud gweithredol sy'n sicrhau bod iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a'r amgylchedd yn parhau i gael eu diogelu a'i fod yn darparu sail gyfreithiol i barhau i fasnachu â'r UE. Mae ein rhaglen parodrwydd o 74 o brosiectau, ar y cyd â DEFRA a BEIS, yn darparu ar gyfer system weithredol ar y diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn disodli systemau'r UE y byddwn ni yn colli'r hawl i fynd atynt, gan gynnwys olrhain symudiadau anifeiliaid a phlanhigion, gorfodi pysgodfeydd a rheoleiddio cemegau.
Byddwn ni yn talu gwerth llawn eu cynllun taliad sylfaenol 2019 i ffermwyr o 2 Rhagfyr. Er mwyn sicrhau nad yw unrhyw fusnes ar ei golled, rydym ni wedi sefydlu cynllun benthyciadau sy'n caniatáu i ni dalu hyd at 90 y cant o'r gwerth a ragwelir ar gyfer hawliadau nad ydynt wedi'u dilysu. Rydym ni wedi gweithio gyda gweithgynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd a gweinyddiaethau eraill ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwi bwyd. Efallai y bydd rhywfaint o ostyngiad yn y dewis o fwydydd sydd ar gael, yn enwedig rhai ffrwythau a llysiau ffres sy'n dod o'r UE. Mae archfarchnadoedd wedi fy sicrhau eu bod wedi ymrwymo i gyflenwi eu holl siopau'n deg, pa un ag ydyn nhw mewn ardaloedd trefol neu wledig.
Mae llawer o'r cemegau a ddefnyddir i sicrhau cyflenwad dŵr glân yn dod o'r UE. Rydym ni'n gweithio gyda'n cwmnïau dŵr, ac rwy'n hyderus bod eu cynlluniau lliniaru cadarn yn sicrhau na fydd, ar y cyfan, unrhyw effaith ar wasanaethau dŵr cyhoeddus. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiogelwch ynni a marchnadoedd. Rydym ni wedi gweithio gyda BEIS i sicrhau bod eu paratoadau'n diwallu anghenion Cymru. Mae BEIS wedi fy sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r cyflenwad trydan, nwy na thanwydd. Mae yna bryderon ynghylch diogelu'r amgylchedd ar ôl gadael. Bydd yr holl fesurau diogelu amgylcheddol deddfwriaethol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael eu cadw. Mae swyddogaeth llywodraethu amgylcheddol y tu allan i Ewrop yn gymhleth ac rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dull gweithredu syml dros dro a'r trefniadau hirdymor angenrheidiol.
Er fy mod yn hyderus yn ein paratoadau, nid wyf yn hunanfodlon. Byddai'n ffuantus dweud nad oedd unrhyw risgiau. Er y gallwn ni liniaru rhai risgiau, mae eraill y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, os na fydd y DU yn cael statws trydedd wlad gan yr UE, bydd allforio cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion yn dod i ben. Mae cynigion i sicrhau hyn yn cael eu trafod â'r UE. Rydym ni'n disgwyl oedi sylweddol mewn porthladdoedd yn ôl dogfen Operation Yellowhammer. Yn achos pysgod cregyn sy'n cael eu hallforio'n fyw, gallai'r oedi hwnnw olygu'r gwahaniaeth rhwng dalfeydd yn cyrraedd y cyfandir ar eu gorau, neu bod y llwyth wedi'i ddifetha. Bydd ein pysgotwyr yn wynebu beichiau gweinyddol newydd, megis tystysgrifau dalfeydd allforio ac iechyd allforio. Er mwyn roi hyn yn ei gyd-destun, mae'n bosibl y bydd nifer y tystysgrifau iechyd allforio a gyhoeddir yng Nghymru bob blwyddyn yn cynyddu ddengwaith.
Yn yr un modd, mae ein hallforion cig oen ni bron i gyd yn mynd i'r UE. Bydd tariffau yn ei gwneud yn anodd i gig oen Cymru gystadlu yn y farchnad Ewropeaidd. Mae gwaith dwys ar y gweill gyda DEFRA i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i atal y sectorau hyn sy'n agored i niwed rhag diflannu yn yr wythnosau yn dilyn gadael heb gytundeb. Byddai'r cynlluniau hyn yn helpu'r sectorau hyn i wrthsefyll effeithiau cychwynnol Brexit heb gytundeb. Fodd bynnag, rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y cymorth hwn, nad ydyn nhw eto wedi ymrwymo i'w ddarparu. Rydym ni'n cefnogi ffermwyr yn y cyfnod anodd hwn: rydym ni wedi ailargraffu'r llyfryn 'Ffit i Ffermio', wedi lansio partneriaeth elusennau, ac wedi ariannu sefydliad DPJ i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i ffermwyr Cymru. Rydym ni hefyd yn hyrwyddo lles ein pysgotwyr.
Nid yw'r holl baratoadau ar gyfer Brexit o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch parodrwydd busnesau. Mae'n hanfodol bod pob diwydiant yn paratoi ar gyfer Brexit. Mae gwefan Paratoi Cymru yn ffynhonnell allweddol o gyngor, a gofynnaf i chi annog busnesau yn eich etholaethau i ymweld â'r wefan a sicrhau eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen arnyn nhw i baratoi. Ar y cyd ag Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, ysgrifennais at fusnesau bwyd a diod Cymru i atgyfnerthu'r neges hon. Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni'n gwneud popeth sydd o dan ein rheolaeth i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb. Rwy'n hyderus y byddwn ni mor barod â phosibl erbyn diwedd y mis hwn. Fodd bynnag, bydd y ffactorau sy'n parhau i fod y tu allan i'n dylanwad uniongyrchol yn effeithio'n sylweddol ar barodrwydd cyffredinol Cymru—parodrwydd busnes, gweithrediadau wrth ffiniau'r DU a'r drefn tariff, yn allweddol.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn enwedig y manylion yr ydych chi wedi gallu eu rhoi i'r Cynulliad heddiw. Byddwn ni hefyd yn gwerthfawrogi cael ein ddiweddaru ychydig, oherwydd sylwaf fod eich datganiad yn sôn am y cyfarfod ar 9 Medi, ond fel y deallaf, cafwyd cyfarfod rhynglywodraethol ar 24 Medi yn ogystal, yn cynnwys y gweinyddiaethau/llywodraethau datganoledig. Yn amlwg, byddwn i'n tybio y byddai'r wybodaeth a fyddai'n deillio o'r cyfarfod hwnnw'n llawer mwy diweddar nag o 9 Medi, yn enwedig sut y mae Llywodraeth Cymru'n rhyngweithio â Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer 'heb gytundeb ', sef yr hyn nad yw'n safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan. Yn amlwg, safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan yw sicrhau cytundeb. Mae'n ddiddorol nodi safbwynt y Llywydd Juncker ddoe, sy'n dweud bod pob posibilrwydd y gellid sicrhau bargen yng nghynhadledd penaethiaid gwladwriaethau Ewrop ar 17 Hydref.
Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi sefydlu Pwyllgor Cabinet i ystyried yn benodol baratoadau gadael 'heb gytundeb', o dan yr acronym XO. Mae wedi cwrdd 48 gwaith, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac wedi gwneud 300 o argymhellion. Byddwn ni'n ddiolchgar o ddeall sawl un o'r 300 o argymhellion hynny sy'n n effeithio ar y sector bwyd-amaeth yn eich portffolio chi, gan gofio bod yr holl argymhellion hyn yn ymwneud â pharatoi ar gyfer gadael 'heb gyundeb'. Felly, mae'n bwysig inni ddeall ymhle y mae'r argymhellion hynny'n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bod y gwaith rhynglywodraethol agos hwnnw'n hanfodol bwysig.
Mae'n bwysig deall hefyd sut y mae eich adran yn rhyngweithio â'r diwydiant cludo nwyddau, oherwydd mae llawer o nwyddau amaeth yn cael eu hallforio o'r wlad hon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 88,000 o fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW wedi cael y gwaith papur angenrheidiol er mwyn rhoi'r trwyddedau ar waith er mwyn iddynt allu parhau i allforio—heb rwystr, fe allwn i ychwanegu. Byddwn i'n ddiolchgar o ddeall faint o'r 88,000 hynny sydd yn y sector bwyd-amaeth yma yng Nghymru. O ystyried mai datganiad 'dim cytundeb ' sydd gennych chi, rwyf yn cymryd yn ganiataol bod y wybodaeth hon ar gael i chi.
Mae hefyd yn werth cofio bod awdurdodau Ffrainc wedi gweithio'n ddiflino i addasu porthladd Calais fel bod modd cludo nwyddau'n rhwydd. Mae meddyginiaethau milfeddygol, yn benodol, wedi'u nodi fel nwyddau categori 1, a fyddai'n cael rhwydd hynt i farchnad y DU, yn enwedig Cymru. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall gan y Gweinidog beth yw ei dealltwriaeth o sut y bydd y weithdrefn yn gweithio, yn enwedig gan fod sicrwydd wedi'i roi ynglŷn â meddyginiaethau milfeddygol yn benodol.
Yn benodol, y bu sôn heddiw am y sector pysgodfeydd, yn bwysig iawn, yn cyrraedd y farchnad mewn pryd. Yn Boulogne, mae awdurdodau Ffrainc wedi sefydlu man tollau tramor a chartref cyflym, a fydd yn gweld nwyddau'n gallu teithio o'r DU ac i mewn i'r farchnad yn Ffrainc mewn cyfnod o 24 awr. A all gadarnhau beth yw ei dealltwriaeth o sut y bydd y man honno'n gweithio? Yn amlwg, mae'n mynd i fod yn fan cyrraedd pwysig i'r farchnad Ewropeaidd. Ai honiad awdurdodau Ffrainc yma yw y byddai'r man cyrraedd hwnnw'r farchnad yn golygu y bydd nwyddau sy'n cael eu dal heddiw yn y DU yn cyrraedd y farchnad Ewropeaidd o fewn 24 awr. Felly, o ran llawer o'r straeon brawychus ynghylch pysgod yn methu cyrraedd y farchnad, os ydych yn derbyn barn awdurdodau Ffrainc amdano, nid yw'n wir, bid siŵr.
Byddwn i hefyd yn ddiolchgar iawn o gael deall sut y mae'r sector milfeddygol yn cael ei gryfhau yma yng Nghymru. Deallaf fod cannoedd o filfeddygon wedi'u hyfforddi mewn gwaith ychwanegol i fynd i'r afael â'r amgylchedd rheoleiddio, ac felly hefyd gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn filfeddygon cymwysedig, i'w cefnogi yn eu gwaith. Faint o'r penodiadau hynny a fydd ar gael i ladd-dai a chyfleusterau prosesu yma yng Nghymru, gan bod cannoedd lawer wedi mynd drwy'r ddarpariaeth hyfforddi angenrheidiol, i wneud yn siŵr nad yw llif y milfeddygon i mewn i ladd-dai yn cael ei rwystro na'r amgylchedd rheoleiddio y mae'r sector prosesu yn gweithio iddo?
A fyddai hefyd yn bosibl iddi ein goleuo ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda DEFRA mewn cysylltiad â'r sector cig dafad—oherwydd mae'n crybwyll hynny yn ei datganiad—ac yn benodol, am ymyrraeth yn y farchnad a fyddai o bosibl ar gael mewn senario 'dim cytundeb'? Yn ôl yr hyn a ddeallaf o sylwadau yn Nhŷ'r Cyffredin gan Weinidog y Cabinet Michael Gove yr wythnos diwethaf, ac yn amlwg eich datganiad yma heddiw, mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn wedi cael eu datblygu hyd at aeddfedrwydd, byddwn i'n ei awgrymu. Byddai'n dda ceisio cael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut y byddent yn gweithredu petai galw amdanynt. Mae'n werth myfyrio ynghylch hyder ffermwyr yn y sector cig oen yn y gwerthiannau bridio. Yn arwerthiant diweddar yr NSA yn Llanfair-ym-Muallt, roedd cynnydd yng nghyfartaleddau a chyfraddau clirio'r stoc bridio yn y gwerthiant hwnnw. Yr wyf wedi mynychu nifer o arwerthiannau fferm yr hydref hwn hefyd ac wedi gweld yr hyder hwnnw i'w weld yn y farchnad.
Fel y dywedais, nid safbwynt Llywodraeth y DU ydyw i adael heb gytundeb. Rydym ni eisiau gweld cytundeb yn ei le, fel nad oes angen galw ar lawer o'r darpariaethau hyn. Ond, o'r hyn a welaf, bu paratoi enfawr wedi bod yn ystod y ddeufis diwethaf, a byddwn yn ddiolchgar o gael deall gan y Gweinidog pa waith paratoi y mae hi wedi bod yn ei wneud i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhai o'r 300 argymhelliad hyn yn eu lle, er mwyn sicrhau y gellir darparu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd mor ddidrafferth â phosibl ar 31 Hydref.
Diolch, Andrew R.T. Davies, am y rhestr honno o sylwadau a chwestiynau. Nid wyf i mor siŵr fy mod yn rhannu eich hyder yn y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gweithio i sicrhau cytundeb. Yn sicr, y cyfarfod pedairochrog diwethaf y mynychais i—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gyfarfod ar 24 Medi, sef dydd Mawrth diwethaf; nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gyfarfod gweinidogol, ac yn sicr petai wedi mynd yn ei flaen, fe aeth yn ei flaen hebof i. Yr un diwethaf i mi ei fynychu oedd ar 9 Medi ac fe gawn ni un arall y mis yma, yng Nghaeredin. Felly nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un arall. Mae'n bosibl mai un i swyddogion ydoedd, ond yn sicr, nid oedd yn un gweinidogol.
Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r cyfarfodydd XO sy'n cael eu cadeirio gan Michael Gove, y mae fy nghyd-Weinidogion naill ai'n eu mynychu neu'n cyfrannu iddynt dros y ffôn, ac rydym ni'n gweithio drwy'r argymhellion hynny. Byddwch chi'n ymwybodol iawn bod gan fy adran i, fel y dywedais i, 74 o brosiectau parodrwydd Brexit byw; mae 47 ohonyn nhw yn cael eu harwain yn bennaf gan DEFRA, ac mae 8 yn cael eu harwain gan BEIS. Credaf ei bod yn deg dweud bod gan fy swyddogion a minnau berthynas waith dda iawn â DEFRA; ac â BEIS ddim cystal. Byddwch chi wedi clywed fy nghyd-Aelod Ken Skates yn cyfeirio at y ffaith bod cyfarfod yr ydym ni wedi bod yn aros yn hir amdano, a ddylai fod wedi digwydd ddydd Llun yn Llundain, wedi cael ei ganslo, dim ond y bore yma. Felly, rwyf yn credu bod angen i BEIS gamu ymlaen yn awr a bod â'r un gallu pedairochrog hwnnw i fynd i'r afael â llawer o'r materion.
O ran cludo nwyddau, mae hynny'n rhywbeth sydd yn rhan o bortffolio Ken Skates, a bydd wedi eich clywed yn holi am nifer y 88,000 hwnnw. Nid yw'r niferoedd hynny gennyf, ond gofynnaf i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynny.
Yn amlwg, mae meddyginiaeth filfeddygol yn rhywbeth sy'n bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae'r sector amaethyddol yn arbennig yn bryderus iawn yn ei chylch, ac rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gydag undebau'r ffermwyr. Unwaith eto, o wrando ar rai o'ch sylwadau ynghylch hyder yn y sector cig, yr undebau, yr NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru—ac rwy'n cwrdd â nhw yfory; mae gennyf i fy nghyfarfod bord gron nesaf ar gyfer rhanddeiliaid yfory—nid dyna yw eu teimlad nhw. Rwy'n credu eu bod yn wirioneddol bryderus am y farchnad ar gyfer cig dafad yn y dyfodol.
Nid wyf wedi gweld y manylion yr oeddech chi'n sôn amdanynt o ran Boulogne, ond mae'n amlwg bod llawer o'n pysgod cregyn yn mynd i Sbaen, er enghraifft, ac yn sicr mae gennym ni rai pryderon gwirioneddol ynghylch pysgodfeydd. Soniais am y fiwrocratiaeth yr ydym ni o'r farn y caiff ei chyflwyno. Nid ydym eisiau i bysgod cregyn gael eu difetha. Rydym wedi arfer â'n pysgod cregyn yn cael eu dal a'u hallforio o fewn cyfnod cyfyng iawn, ac yn cael eu gweini ar blatiau mewn bwytai yn ne Sbaen, er enghraifft. Felly credaf ei fod yn rhywbeth yr ydym ni yn pryderu yn ei gylch. Mae'r ffaith y bydd angen tystysgrifau dalfeydd arnom ni, y ffaith y bydd angen tystysgrifau iechyd allforio arnom ni yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r sector gynllunio ar ei gyfer.
Rwy'n bryderus, hefyd, ynghylch lles ein pysgotwyr. Ni chredaf ein bod wedi gallu ymgysylltu â nhw, yn y ffordd yr ydym ni wedi â'r sector amaethyddol oherwydd bod cymaint o elusennau yno'n barod sy'n ein helpu ni gyda lles ein ffermwyr. Felly, rydym ni wedi sefydlu'r bartneriaeth elusennau y cyfeiriais ati yn fy natganiad er mwyn cyflawni hynny.
O ran y milfeddygon, rydym ni'n credu bod 90 o filfeddygon ychwanegol, o ystyried yr ardystiad iechyd yn enwedig. Felly, cefais rywfaint o arian o gronfa bontio'r UE i recriwtio'r rhai hynny. O ran lladd-dai, nid wyf yn credu bod gennym ni bryder ynghylch—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gannoedd o filfeddygon yn cael eu hyfforddi; eto, nid dyna yw fy argraff i. Rydym ni yn pryderu oherwydd bod cynifer, canran uchel iawn, o'n milfeddygon yn wladolion yr UE, ac rydym ni'n pryderu y byddan nhw yn gadael i ddychwelyd adref. Ddoe, roeddwn i yn Nulyn ar gyfer cynhadledd ynni'r cefnfor, ond cefais gyfarfod, manteisiais ar y cyfle i gwrdd â Dawn Meats/Dunbia, ac mae'n amlwg eu bod yn pryderu'n fawr am sut y maen nhw yn mynd i gyflogi'r nifer o wladolion yr UE sydd wedi gadael eu swyddi. Credaf iddynt gyfeirio at y ffaith bod tua 50 wedi gadael yn diweddar, ac mae'n hynod anodd recriwtio, ac maen nhw yn bryderus iawn am recriwtio.
O ran eich cwestiynau am y sector defaid, rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn i DEFRA, ac maen nhw'n derbyn y bydd angen cymorth ar y sector defaid os bydd Brexit heb gytundeb. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn ar bolisi ar y cyd gyda DEFRA a gyda Llywodraeth yr Alban, a gyda Gogledd Iwerddon, i gyflwyno cynllun. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn bod cynllun yn—. Felly, mae gennym ni gamau gweithredu cyffredin i'w cymryd hyd a lled yr holl weinyddiaethau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen. Nid ydym ni eisiau aflunio cystadleuaeth rhwng gwahanol rannau o'r DU, ond wrth gwrs y peth pwysicaf o ran hynny yw ein bod yn cael yr arian hwnnw gan Drysorlys y DU, a bydd Aelodau wedi fy nghlywed i'n dweud sawl gwaith, yn anffodus, nid ydym wedi cael yr ymrwymiad hwnnw. Nid yw'r cyllid gennyf yn fy nghyllideb a byddai unrhyw ymyriad newydd yn gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Mae angen inni gael y sicrwydd hwnnw gan y Trysorlys, a byddwn ni'n parhau i weithio dros hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau dilys. Credaf fod yna ryw eironi bod nifer o bobl a oedd o blaid gadael yr UE eisiau gwneud hynny oherwydd biwrocratiaeth ganfyddedig, ac yn awr wrth gwrs, maen nhw'n wynebu mwy o fiwrocratiaeth yn sgil Brexit heb gytundeb, sydd yn fy nhyb i yn rhywbeth i lawer o bobl gnoi cil arno.
Rwyf innau hefyd yn pryderu y bydd tegwch o ran cyflenwadau bwyd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â mewn ardaloedd trefol, ac rwy'n falch eich bod wedi ceisio cael rhyw lefel o sicrwydd gan archfarchnadoedd. Yn sicr, mae angen inni eu dal at eu gair ar hynny. Wrth gwrs, dywedodd dogfen Yellowhammer Llywodraeth y DU bod angen i ni ystyried y risg y bydd prynu ar frys yn ddiangen yn gallu achosi neu waethygu'r tarfu ar y cyflenwad bwyd. Tybed sut rydych chi'n paratoi ar gyfer y sefyllfa bosibl benodol honno a'r effaith a gâi hynny, oherwydd nid ydych yn cyfeirio ato yn eich datganiad.
Rydych chi'n dweud wrthym yn y datganiad ac mae dogfen Llywodraeth Cymru ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd yn sôn am ymyriad posibl yn y farchnad ar gyfer y sector defaid. Rydych chi wedi'i grybwyll yn y fan honno ac rydych chi wedi ei wneud yn glir y byddech chi'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i dalu cost unrhyw ymyriad posibl. Beth os nad ydyn nhw'n gwneud hynny? Siawns nad oes yn rhaid ichi gael rhyw fath o gynllun mewn golwg i geisio lliniaru cystal ag y gallwch unrhyw effeithiau posibl drwy ryw fath o ymyriad. Byddai diddordeb gennyf i wybod beth y gallai cynllun B fod.
Gwyddom ni hefyd, wrth gwrs, fod y sector cig eidion yn cael trafferth mawr gyda nifer o ffermwyr ar ben eu tennyn yn y sector arbennig hwnnw. Ac os gwelwn ni, ar gyfer cig eidion a chig oen, dariffau uchel a safonau uchel yn cael eu codi ar gynnyrch domestig a thariffau isel a safonau is yn cael eu codi ar yr hyn a fydd yn ddiau yn fewnforion tramor rhatach, yna yn syml, ni fydd ffermydd Cymru yn gallu cystadlu, ac mewn llawer o achosion, mae'n debyg na fyddan nhw'n gallu goroesi.
Clywsom ni dros yr haf gan nifer o bobl am bosibilrwydd anghydfod sifil a blocâd porthladdoedd a'u tebyg, wrth i ffermwyr, wrth gwrs, geisio diogelu eu bywoliaeth. Byddai diddordeb gennyf i wybod pa waith paratoi y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i wneud, yn wir pa drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch posibiliadau o'r fath. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn eich datganiad at hynny, ac wrth gwrs, po agosaf y byddwn yn cyrraedd Brexit heb gytundeb, yna byddwn i'n dychmygu y byddai'r math hwnnw o ganlyniad yn fwy tebygol.
Yn olaf, fe ofynnais i chi ar 17 Gorffennaf a fyddech chi, o gofio'r angen i'r Llywodraeth gyfeirio ei holl adnoddau i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb, yn ystyried oedi darnau eraill o waith y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd, megis yr ymgynghoriad ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Ar y pryd, fe wnaethoch chi ddweud na fyddech chi'n oedi'r ymgynghoriad hwnnw ac na fyddech chi'n tynnu pobl oddi ar y darn hwnnw o waith. Gan fod y posibilrwydd o adael heb gytundeb yn dod yn fwyfwy tebygol, a wnewch chi ddweud wrthym ni yn awr a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi yn ei ystyried? Nid oeddech yn fodlon ei wneud ym mis Gorffennaf, ond byddwn i'n gofyn ichi gadarnhau hynny heddiw.
Diolch, Llyr, am eich cwestiynau. Credaf eich bod yn llygad eich lle o ran yr eironi. Yn sicr, credaf fod ein pysgotwyr yn arbennig yn mynd i wynebu llawer mwy o fiwrocratiaeth. Yn amlwg, mae'n sector sy'n agored iawn i niwed ac, ynghyd â'r sector defaid, rydym ni wedi ei gwneud yn glir iawn y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt.
Rydych chi'n gofyn a oes gennym ni gynllun B. Wel, fel y dywedais, nid oes gennyf fi filiynau o bunnoedd yn fy nghyllideb i allu cefnogi'r sector defaid yn y ffordd yr ydym ni wedi'i thrafod, wrth ffurfio'r polisi hwnnw ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau eraill. Felly, byddai'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar sut y gallem ni ddod o hyd i'r arian hwnnw. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, a gallwch chi naill ai ei gredu neu beidio, y byddai'n cefnogi'r sector amaethyddol. Mae ef wedi dweud hynny droeon. Rwyf i yn awr yn dal i geisio sicrwydd gan Drysorlys y DU y byddan nhw'n darparu'r cyllid yn y ffordd yr ydym ni wedi'i thrafod am fisoedd lawer erbyn hyn, i gefnogi'r sector defaid. Yn sicr, petawn i'n berson betio, byddwn i'n dweud y byddan nhw yn gwneud hynny, oherwydd yr wyf i'n eu credu'n llwyr pan fyddan nhw'n dweud eu bod yn deall yr effaith ar y sector defaid, ac ni fydden nhw'n caniatáu iddo ddigwydd pe byddem yn cael Brexit heb gytundeb.
O ran pysgodfeydd, mae angen inni edrych unwaith eto ar y cyllid y byddem ni yn gallu ei ddefnyddio i gefnogi ein pysgotwyr, oherwydd mae'n amlwg iawn y byddai effaith Brexit heb gytundeb, mae'n debyg, yn digwydd yn gyflym iawn, iawn—yn gyflymach hyd yn oed na'r sector defaid. Felly, bydd angen inni edrych ar ffordd o warchod y diwydiant hwnnw.
Yn amlwg, mae argyfyngau sifil posibl yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod Julie James, ac mae hi'n gwneud datganiad yn ddiweddarach, ond rwyf wedi cael trafodaethau, yn enwedig gydag un o'r undebau ffermio, ynghylch aflonyddwch sifil, oherwydd dros yr haf gwnaeth Undeb Amaethwyr Cymru eu barn yn glir iawn ynglŷn â'u pryderon. Felly, rwyf wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda nhw i weld beth y gallwn ni ei wneud i liniaru hynny. Ni allwn ni liniaru popeth, ond credaf ei fod yn fater sy'n uchel ar ein hagenda, yn amlwg.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at brynu ar frys yn ddiangen a bwyd, a chredaf mai'r neges yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i rhoi i bobl yw na fydd yna ddewis, o bosibl, ond bydd y bwyd yno. Ac rwyf wedi gweithio i gael trafodaethau gydag archfarchnadoedd a gyda chwmnïau logisteg, ac mae'r Gweinidog Brexit a minnau yn trefnu i siarad â rhai o'r archfarchnadoedd eto a rhai o'r prif gwmnïau logisteg yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn y sefyllfa honno.
O ran defnyddio'n holl adnoddau, byddwch chi yn ymwybodol fy mod wedi gorfod symud swyddogion o ddarnau o waith. Eto, nid wyf eisiau gohirio'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn paratoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Ac yn amlwg, mae pethau'n mynd i fod yn wahanol iawn. Felly, rwyf eisiau parhau i weithio gyda phawb, yn enwedig ynghylch y cyd-ddylunio. Rwyf i newydd gael llythyr arall, nid mor bell yn ôl â hynny, gan un o'r undebau ffermio yn gofyn imi wneud hynny. Rwyf wedi ystyried; rydym ni wedi edrych ar nifer yr ymatebion a oedd yn dod at yr ymgynghoriad ac, unwaith eto, ar hyn o bryd, nid wyf i'n mynd i ohirio yr ymgynghoriad.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, sy'n creu darlun eithaf digalon. Rwyf eisiau ymateb i un neu ddau o bwyntiau. Rydych chi'n dweud bod yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi eich sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r cyflenwad trydan, nwy na thanwydd. Tybed a gaf i archwilio hynny ychydig ymhellach a gofyn ar ba sail y maen nhw'n rhoi'r sicrwydd hwnnw. Pa dystiolaeth y maen nhw'n ei roi? Pa gyfran o anghenion ynni'r DU sy'n cael eu mewnforio ar hyn o bryd o Ewrop—ac yn berthnasol iawn wrth gwrs, ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, sef y ddau fis yn union ar ôl Calan Gaeaf? Yn amlwg, mae angen inni fod yn barod am y posibilrwydd y bydd ynni'n cael ei ddogni, mae'n debyg, os na allwn ni gael cyflenwadau nwy o Ewrop, a gwn yn y gorffennol ein bod ni wedi dibynnu ar hynny.
Yn yr un modd, o ran bwyd, mae'n dda clywed bod yr archfarchnadoedd yn ein sicrhau eu bod yn mynd i barhau i gyflenwi pob un o'u siopau. Rydych chi'n dweud y gallai fod rhywfaint o leihau ar y dewis o fwydydd sydd ar gael, yn enwedig ffrwythau a llysiau ffres sy'n dod o'r UE, ac mae hynny braidd yn amlwg, os bydd tarfu ar daith nwyddau o'n porthladdoedd. Tybed pa fath o gynlluniau ar gyfer sefyllfa lle na allwn ddibynnu ar fewnforio gallai'r Llywodraeth eu cael, oherwydd, yn anffodus, mae'r 'toriad glân' fel y'i gelwir, neu'r trychineb, yn debygol o barhau am fwy na dim ond ychydig fisoedd. Felly, tybed pa gyngor ydych chi'n ei roi i ffermwyr a theuluoedd i blannu llysiau'r gaeaf, rhag ofn ac i warchod rhag y posibilrwydd y collir ffrwythau a llysiau ffres. Rwy'n gwerthfawrogi nad dyma'r adeg iawn o'r flwyddyn i ruthro i wneud hyn, ond mae rhywbeth yn well na dim. Diolch.
Diolch, Jenny. O ran y cwestiwn ynghylch diogelwch ynni, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol, yn amlwg, am ddiogelwch ynni a marchnadoedd ynni. Felly, rydym wedi ymgysylltu'n helaeth, wel, mae swyddogion wedi ymgysylltu—â swyddogion polisi BEIS, i wneud yn siŵr bod eu dadansoddiad a'r paratoadau y maen nhw'n eu cyflwyno yn ystyried anghenion ein cymunedau a'n diwydiannau. Ac ar hyn o bryd, rydym yn fodlon â'r sicrwydd a roddwyd i ni. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth yr wyf am ei ddwyn mewn gwirionedd i lefel weinidogol ac mae wedi bod yn anodd iawn, iawn i ymgysylltu â Gweinidogion BEIS. Soniais mewn ateb cynharach fod fy nghyd-Aelod Ken Skates a minnau i fod i gyfarfod ag Andrea Leadsom ddydd Llun. Cafodd ei ganslo'r bore yma, felly mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio aildrefnu'r cyfarfod hwnnw, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw yr ydych chi yn ei geisio.
Rwyf hefyd wedi bod yn pwyso am drefniadau llywodraethu gwell o ran ynni o ran ein hargyfwng hinsawdd a'n targedau datgarboneiddio, oherwydd, yn amlwg, mae synergedd rhyngddynt. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—yn amlwg, mae sawl cyd-ddibyniaeth rhwng polisïau datganoledig a pholisïau a gadwyd yn ôl, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw, a'n bod yn chwilio am unrhyw bolisïau yn y dyfodol i ystyried hynny.
O ran y cyflenwad bwyd, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gofyn y cwestiwn i'n harchfarchnadoedd ynghylch y dosbarthu teg hwnnw nid yn unig i archfarchnadoedd trefol, ond hefyd i'n siopau a'n harchfarchnadoedd gwledig.
O ran plannu llysiau'r gaeaf, dydw i ddim yn credu y byddai ar ffermwyr angen cyngor gennyf i; rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn edrych arno. Mae hyn ar y ffordd ers cryn amser, felly rydym wedi bod yn gweithio gyda'r busnesau amaethyddol hynny a busnesau bwyd a diod eraill i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar eu cynlluniau busnes i weld beth arall y gallan nhw ei wneud.
Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle—rwy'n clywed hyn drwy'r amser: 'mae angen i ni gyflawni Brexit—mae angen i ni gyflawni Brexit.' Wel, mae hyn yn mynd i bara nid yn unig am fisoedd, ond am flynyddoedd a blynyddoedd, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru'r effeithiau. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i bobl fod yn realistig ynghylch yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.