Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau dilys. Credaf fod yna ryw eironi bod nifer o bobl a oedd o blaid gadael yr UE eisiau gwneud hynny oherwydd biwrocratiaeth ganfyddedig, ac yn awr wrth gwrs, maen nhw'n wynebu mwy o fiwrocratiaeth yn sgil Brexit heb gytundeb, sydd yn fy nhyb i yn rhywbeth i lawer o bobl gnoi cil arno.
Rwyf innau hefyd yn pryderu y bydd tegwch o ran cyflenwadau bwyd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â mewn ardaloedd trefol, ac rwy'n falch eich bod wedi ceisio cael rhyw lefel o sicrwydd gan archfarchnadoedd. Yn sicr, mae angen inni eu dal at eu gair ar hynny. Wrth gwrs, dywedodd dogfen Yellowhammer Llywodraeth y DU bod angen i ni ystyried y risg y bydd prynu ar frys yn ddiangen yn gallu achosi neu waethygu'r tarfu ar y cyflenwad bwyd. Tybed sut rydych chi'n paratoi ar gyfer y sefyllfa bosibl benodol honno a'r effaith a gâi hynny, oherwydd nid ydych yn cyfeirio ato yn eich datganiad.
Rydych chi'n dweud wrthym yn y datganiad ac mae dogfen Llywodraeth Cymru ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd yn sôn am ymyriad posibl yn y farchnad ar gyfer y sector defaid. Rydych chi wedi'i grybwyll yn y fan honno ac rydych chi wedi ei wneud yn glir y byddech chi'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i dalu cost unrhyw ymyriad posibl. Beth os nad ydyn nhw'n gwneud hynny? Siawns nad oes yn rhaid ichi gael rhyw fath o gynllun mewn golwg i geisio lliniaru cystal ag y gallwch unrhyw effeithiau posibl drwy ryw fath o ymyriad. Byddai diddordeb gennyf i wybod beth y gallai cynllun B fod.
Gwyddom ni hefyd, wrth gwrs, fod y sector cig eidion yn cael trafferth mawr gyda nifer o ffermwyr ar ben eu tennyn yn y sector arbennig hwnnw. Ac os gwelwn ni, ar gyfer cig eidion a chig oen, dariffau uchel a safonau uchel yn cael eu codi ar gynnyrch domestig a thariffau isel a safonau is yn cael eu codi ar yr hyn a fydd yn ddiau yn fewnforion tramor rhatach, yna yn syml, ni fydd ffermydd Cymru yn gallu cystadlu, ac mewn llawer o achosion, mae'n debyg na fyddan nhw'n gallu goroesi.
Clywsom ni dros yr haf gan nifer o bobl am bosibilrwydd anghydfod sifil a blocâd porthladdoedd a'u tebyg, wrth i ffermwyr, wrth gwrs, geisio diogelu eu bywoliaeth. Byddai diddordeb gennyf i wybod pa waith paratoi y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i wneud, yn wir pa drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch posibiliadau o'r fath. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn eich datganiad at hynny, ac wrth gwrs, po agosaf y byddwn yn cyrraedd Brexit heb gytundeb, yna byddwn i'n dychmygu y byddai'r math hwnnw o ganlyniad yn fwy tebygol.
Yn olaf, fe ofynnais i chi ar 17 Gorffennaf a fyddech chi, o gofio'r angen i'r Llywodraeth gyfeirio ei holl adnoddau i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb, yn ystyried oedi darnau eraill o waith y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd, megis yr ymgynghoriad ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Ar y pryd, fe wnaethoch chi ddweud na fyddech chi'n oedi'r ymgynghoriad hwnnw ac na fyddech chi'n tynnu pobl oddi ar y darn hwnnw o waith. Gan fod y posibilrwydd o adael heb gytundeb yn dod yn fwyfwy tebygol, a wnewch chi ddweud wrthym ni yn awr a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi yn ei ystyried? Nid oeddech yn fodlon ei wneud ym mis Gorffennaf, ond byddwn i'n gofyn ichi gadarnhau hynny heddiw.