Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 1 Hydref 2019.
Yn ogystal â meddyginiaethau, mae cannoedd o filoedd o gynhyrchion y mae'r GIG yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys popeth o orchuddion a rhwymynnau i fenig, chwistrellau, nodwyddau a llawer mwy. Ar gyfer y dyfeisiau meddygol a'r deunyddiau traul clinigol hyn, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda GIG Cymru i gynyddu'r stoc sydd gennym ni. O'r dechrau, mae ein cynllunio wedi cynnwys darparu eitemau allweddol a ddefnyddir gan ddarparwyr gofal cymdeithasol hefyd, yn ogystal â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Hyd yn hyn, mae pentyru'r stoc ychwanegol cyffredinol hwn wedi costio dros £5 miliwn.
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu, fel y dywedodd Lesley Griffiths, y bydd prinder bwyd yn gyffredinol, ond bydd Brexit heb gytundeb yn arwain at leihad yn y dewis o rai bwydydd a fewnforir o'r UE a bydd hi'n anoddach cael gafael arnyn nhw. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi bod yn glir iawn ynghylch hyn. I baratoi, rydym ni wedi gofyn i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ystyried sut y gellid addasu prydau bwyd os yw'n anodd cael gafael ar rai cynhwysion, heb, wrth reswm, gyfaddawdu ar safonau maeth.
Pryder mawr i mi erioed yw effaith bosib Brexit ar ein gweithlu, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau, ond mae hyn yn mynd at wraidd pwy ydym ni fel cenedl. Ni allem ni ddarparu ein gwasanaethau iechyd a gofal heb staff o Ewrop a ledled y byd. Rwy'n ystyried ein holl staff yn gyfwerth â'i gilydd, beth bynnag fo'u gwlad enedigol, ac rwy'n parhau i atgyfnerthu'r neges hon yn gyhoeddus ac i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n destun rhwystredigaeth anghredadwy i mi fod Llywodraeth y DU yn parhau i hybu cyfyngiadau ar recriwtio staff a fyddai heb os nac oni bai yn niweidiol i wasanaethau iechyd a gofal ac, wrth gwrs, i'r bobl agored i niwed sy'n dibynnu arnyn nhw.
Hyd yn hyn nid ydym ni wedi gweld nifer sylweddol o ddinasyddion yr UE yn gadael gwaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, ond mae rhannau eraill o'r DU wedi gweld hyn. Rydym ni'n gweld gostyngiad mewn recriwtio o dramor, a fydd yn cael effaith ddifrifol yn y tymor canolig os bydd yn parhau. Efallai hefyd y gwelwn ni staff iechyd a gofal yn symud i swyddi mewn sectorau eraill, y mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi gweld colledion sylweddol o ran gwladolion yr UE.
Er bod goblygiadau uniongyrchol Brexit—ac yn enwedig Brexit heb gytundeb—eisoes yn sylweddol ac yn bellgyrhaeddol, ceir effeithiau eraill mwy anuniongyrchol a allai arwain at ganlyniadau uniongyrchol, difrifol i ddarparwyr iechyd a gofal. Er enghraifft, mae cost bwyd, tanwydd a meddyginiaethau yn debygol o gynyddu mewn sefyllfa o adael heb gytundeb o ganlyniad i lai o gyflenwad a phunt wannach. Byddai hyn yn effeithio'n arbennig ar sefydliadau yn y sector gofal cymdeithasol. Ledled Cymru, mae 1,275 o ddarparwyr cartrefi gofal yn darparu gofal a chymorth i fwy na 26,000 o bobl. Mae traean o'r darparwyr hynny'n fusnesau bach sydd â llai na chwe gwely. Byddai llawer yn gweld cynnydd mewn prisiau yn anodd ei ysgwyddo, a byddai'r cynnydd hwn yn effeithio ar wasanaethau eraill sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl, megis pryd ar glud a chanolfannau dydd.
Byddai prisiau mwy, wrth gwrs, yn taro rhai rhannau o'n gweithlu'n arbennig o galed, er enghraifft staff gofal cartref. Byddai hyn yn enghraifft wirioneddol ac anghyfiawn o'r ffordd y byddai gadael heb gytundeb yn cael effaith anghymesur ar bobl mewn grwpiau incwm is a grwpiau mwy agored i niwed. Mae hynny, wrth gwrs, wedi'i nodi'n glir yn y ddogfen Yellowhammer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Os gwelwn ni'r colledion swyddi a ragwelir yn dilyn Brexit heb gytundeb, byddai hyn yn arwain at fwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal, yn enwedig cymorth iechyd meddwl. Er ei bod hi'n anodd mesur hyn, gallwn ddisgwyl cynnydd yn y gost a'r amser a gymerir i gael triniaeth gan nad oes gennym ni'r nifer o weithwyr proffesiynol sydd eu hangen i ymateb i faint o alw a ragwelir.
Mae'n parhau i beri rhwystredigaeth i mi fod paratoi ar gyfer Brexit yn dargyfeirio cymaint o egni ac adnoddau o feysydd pwysig eraill. Ein hamcangyfrif yw bod cyfwerth â rhwng 50 a 100 o swyddi llawn amser wedi'u neilltuo ar gyfer paratoi am sefyllfa o adael heb gytundeb ledled y maes iechyd a gofal yng Nghymru—digon i gynnal nifer sylweddol o feddygfeydd teulu canolig yng Nghymru yn lle hynny. Mae bod yn barod am Brexit yn defnyddio amser sylweddol arweinwyr a rheolwyr ym mhob haen o'n sefydliadau. Dylai'r bobl hyn fod yn gweithio ar flaenoriaethau eraill i wella'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu ar gyfer pobl Cymru, yn hytrach na pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb a fydd, fel y dywedais, y math gwaethaf posib ar Brexit a'r canlyniad Brexit a fyddai'n achosi'r niwed mwyaf. Fodd bynnag, rwyf yn ddiolchgar i'r holl staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd Brexit heb gytundeb. Rydym ni wedi gweithio'n galed i ddiogelu buddiannau'r cyhoedd a chleifion yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i asesu effeithiau gadael yr UE ac i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod o fewn rheswm. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal Llywodraeth y DU rhag ein harwain at Brexit heb gytundeb trychinebus, a fydd yn anochel yn taro Cymru'n galetach na rhannau eraill o'r DU.