6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:36, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi nodi effeithiau sylweddol posib Brexit heb gytundeb ar gyfer ein gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Mae fy safbwynt yn dal yn hollol glir: mae Brexit heb gytundeb yn golygu peryglon sylweddol i wasanaethau yng Nghymru a'r cyhoedd y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Mewn sefyllfa o ansicrwydd hanesyddol, rwyf wedi canolbwyntio ar weithio gyda phob partner i gyfyngu, cyn belled â phosib, ar y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi i'n GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i baratoi ar gyfer effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac i ymateb yn gyflym i faterion ac effeithiau wrth iddyn nhw godi os byddwn yn gadael. Mae'r trefniadau hyn wedi cael eu profi a'u hymarfer droeon, ac i'r graddau eu bod hi'n bosib, eu sicrhau. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi, ni all unrhyw faint o gynllunio warantu Brexit lle na fydd unrhyw darfu. Mae awgrymu fel arall yn gamarweiniol ac yn anghyfrifol iawn.

Bydd gadael yr UE yn cael effaith dros y tymor byr, canolig a hir. Ein blaenoriaeth fu sicrhau parhad cyflenwadau hanfodol, fel y gellir cynnal gwasanaethau, cyn belled ag sy'n bosibl, ar sail busnes fel arfer. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio'n briodol ac yn hyderus, gan sicrhau gymaint ag y gallwn ni na chaiff y cyhoedd a chleifion eu heffeithio'n andwyol. Y peth olaf y dylem ni ei wneud yw cyflwyno cymhlethdod ac ansicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd a'n staff, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu.

Rydym ni wedi chwilio am gyfleoedd i gryfhau capasiti o fewn y sector y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol Brexit. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cymeradwyo prynu a stocio cyfleuster storio ychwanegol i sicrhau nad amherir ar gyflenwadau o offer meddygol ac eitemau hanfodol. Roedd y buddsoddiad hwn o £11 miliwn yn angenrheidiol ac yn fater brys yn sgil y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ym mis Mawrth. I roi hynny yn ei gyd-destun, gallai'r £11 miliwn a wariwyd ar warws fod wedi talu am saith sganiwr delweddu cyseinedd magnetig newydd yn lle hynny.

Mae llawer o'r ymatebion hanfodol i Brexit heb gytundeb yn gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i bwyso am sicrwydd ynghylch materion megis llif nwyddau drwy borthladdoedd, statws preswylydd sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE, ac yn herio'n gadarn mewn meysydd lle mae angen gwarchod buddiannau Cymru.

O ran meddyginiaethau, rydym yn cymryd rhan mewn trefniadau ledled y DU i gynnal cyflenwadau, gan weithio'n agos gyda'r diwydiant. Mae prosesau wedi'u sefydlu i reoli prinder meddyginiaethau, a bydd y rhain yn berthnasol i unrhyw brinder a achosir gan Brexit. Byddant yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o feddyginiaethau a allai fod mewn perygl. Mae trefniadau tebyg ledled y DU ar waith ar gyfer radioisotopau, wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflym a phwrpasol o gludo nwyddau i feysydd awyr. Unwaith eto, rhoddwyd y trefniadau hyn ar waith ac ar brawf yn ddiweddar mewn ymateb i bryderon a godwyd yn eang gan glinigwyr a grwpiau proffesiynol.