Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth Cymru, ein barn ni yw na ddylid hyd yn oed meddwl am Brexit 'heb gytundeb'. Fel y clywsom eisoes, gallai'r effeithiau fod yn ddifrifol ac yn bellgyrhaeddol. Gwyddom y bydd yn anodd iawn lliniaru effeithiau ymadael heb gytundeb, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i weithio'n ddiflino yn erbyn y posibilrwydd hwnnw, yn ogystal ag i leihau effaith drychinebus canlyniad o'r fath, i'r graddau yr ydym yn gallu gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ymhelaethu ar agweddau ar ein cynllun gweithredu ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' a'r gwaith ehangach y mae rhai o'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan weithio'n agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector, yn ei wneud i baratoi.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gyfrifol am gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol yn gallu ymateb i bob sefyllfa Brexit. Maen nhw, a phartneriaid yn y trydydd sector, yn allweddol i ddarparu ymateb lleol i effaith niweidiol Brexit 'heb gytundeb' ar ein cymunedau. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaethom ni gydnabod y byddai'r gwaith paratoi hwn yn cymryd cryn dipyn o adnoddau ac ymdrech. Darparwyd arian gennym ar gyfer cydlynwyr Brexit penodedig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, ac ar gyfer gwaith gan CLlLC i'w cefnogi a'u cynghori. Mae'r cyllid hwn o dros £1.3 miliwn wedi galluogi pob awdurdod lleol i baratoi ei wasanaethau ei hun i ymateb i ymadael 'heb gytundeb'.
Maen nhw wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol i leihau'r effaith a gaiff ar ein dinasyddion yn sgil y tarfu ar borthladdoedd, y cadwyni cyflenwi bwyd, cynnydd yng nghost bwyd a thanwydd, yn ogystal â'r posibilrwydd o darfu ar lif data. Gallai tarfu ar gadwyni cyflenwi effeithio ar gyflenwadau bwyd i ysgolion a chartrefi gofal, neu i bobl agored i niwed yn eu cartrefi. Bydd unrhyw gynnydd mewn costau tanwydd a nwyddau neu rwystrau eraill i'r gweithlu yn effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth a phrosiectau adfywio ac adeiladu, o dai i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae awdurdodau lleol, fel eraill, wedi gorfod gweithio drwy'r materion hyn i archwilio dewisiadau amgen a datblygu cadernid ar draws eu gwasanaethau.
Mae'r effeithiau yn mynd yn ehangach na gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae economïau lleol, sydd eisoes wedi'u niweidio gan ddegawd o gyni, yn teimlo effeithiau ansicrwydd ymadael 'heb gytundeb'. Mae swyddogaeth llywodraeth leol o ran cefnogi economïau lleol yn sylweddol, boed hynny drwy gefnogaeth uniongyrchol, penderfyniadau prynu neu adfywio ehangach. Yn rhan o'n pecyn haf o ysgogiad economaidd, darparodd y Llywodraeth £20 miliwn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol i gefnogi ac ysgogi eu heconomïau lleol yn erbyn effeithiau Brexit. Rydym hefyd wedi ariannu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu'r trydydd sector i fod yn barod. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd eu hadroddiad 'Grymuso Cymunedau'.
Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg y byddai Brexit 'heb gytundeb' anhrefnus yn effeithio ar bawb, gan roi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes o dan bwysau. Wedi blynyddoedd o gyni a thoriadau gan Lywodraeth y DU, ni all y gwasanaethau hyn fforddio canlyniadau dirwasgiad dwfn arall a chynnydd posibl i brisiau bwyd a thanwydd, a allai wthio nifer fwy o bobl i dlodi a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus.
Hoffwn ddweud ychydig o eiriau am effaith Brexit, gyda neu heb gytundeb, ar ein cymunedau a'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y peryglon i'r rhai hynny sydd eisoes yn byw mewn tlodi, neu sydd mewn perygl o ddisgyn i dlodi. Mae tai a lleihau digartrefedd eisoes yn un o'n blaenoriaethau mwyaf taer. Bydd Brexit 'heb gytundeb' yn gwneud y sefyllfa hon yn waeth, gan roi bywoliaeth pobl mewn perygl, a chynyddu costau byw, gan gynnwys costau morgais a rhent. Dyna pam, o dan y gyllideb atodol gyntaf, y dyrannwyd £50 miliwn o wariant cyfalaf ychwanegol i gyllideb y grant tai cymdeithasol i helpu i wrthbwyso effaith economaidd gadael heb gytundeb.
Yna, mae'n bosibl y bydd cynnydd yng nghost bwyd, oherwydd sioc economaidd neu lai o gyflenwad. Mae'r galw am fanciau bwyd wedi bod ar gynnydd ers nifer o flynyddoedd. Byddai unrhyw gynnydd mewn prisiau bwyd yn fater o bryder mawr. Dyna pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog gronfa gwerth £2 miliwn yn ddiweddar ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni hefyd yn ystyried ffyrdd y gellid defnyddio ein cronfa cymorth dewisol i gefnogi'r rhai hynny a fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit 'heb gytundeb'.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwbl glir ynghylch y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y bobl hynny o genhedloedd eraill yr UE sydd wedi gwneud eu cartrefi gyda ni, sy'n cyfrannu at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein bywyd dinesig a'n diwylliant. Un o'r agweddau mwyaf truenus ar ein hamgylchiadau presennol yw'r pryder a'r ansicrwydd y mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn wedi'u dioddef cyhyd. Gadewch i mi fod yn glir: mae'r cyfrifoldeb am hyn yn sefyll yn gadarn wrth ddrws Llywodraeth y DU ond nid ydym ni'n sefyll yn ôl ac yn gwneud dim. Rydym ni wedi ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru i helpu dinasyddion i wneud cais am statws preswylydd sefydlog drwy ein prosiect hawliau dinasyddion yr UE, yn ogystal ag ariannu gwasanaeth cyngor ar fewnfudo i ddarparu cyngor mwy arbenigol.
Dirprwy Lywydd, gwyddom fod refferendwm yr UE wedi creu rhaniadau mewn teuluoedd, mewn cymunedau ac mewn cymdeithas a allai gymryd cenhedlaeth i'w cyfannu. Mewn rhai achosion, mae wedi arwain at fwy o densiynau ac achosion o droseddau casineb. Gydag ansicrwydd Brexit 'heb gytundeb', gallai'r tensiynau hyn waethygu. Felly, rydym ni wedi ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol, a gydgysylltir gan awdurdodau lleol, drwy £1.5 miliwn ychwanegol o gyllid pontio Ewropeaidd dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r cyllid hwn bellach yn cefnogi timau bach ym mhob rhanbarth o Gymru i fonitro tensiynau cymunedol a hybu mwy o ymgysylltu yn ein cymunedau. Rydym ni hefyd wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer y ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, ac wedi datblygu grant troseddau casineb newydd ar gyfer cymunedau lleiafrifol i gefnogi partneriaid y trydydd sector sy'n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i liniaru effeithiau troseddau casineb a'u hatal yn y dyfodol.
Wrth gwrs, nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae rhai effeithiau y tu hwnt i reolaeth llywodraeth leol, neu yn wir Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fyddan nhw'n ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi’u datganoli neu faterion macroeconomaidd. Ni fydd unrhyw lefel o gynllunio a pharatoi naill ai yn y fan yma, na chan Lywodraeth y DU, yn gallu ymdopi'n ddigonol â lefel y tarfu y byddai ymadael 'heb gytundeb' yn ei olygu i bobl Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn gweithio ar gynllunio wrth gefn ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' ers y cyfnod cyn y dyddiad ymadael cychwynnol ym mis Mawrth. Mae'r pedwar fforwm Cymru Gydnerth lleol ledled Cymru wedi nodi'r risgiau lleol ac maen nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod i nodi a lliniaru'r risgiau hyn. Rydym ni wedi cyfrannu at weithrediad Ymgyrch Yellowhammer Llywodraeth y DU ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod gennym y strwythurau a'r prosesau cywir ar waith i fonitro'r effeithiau a, phan fo angen, i gymryd y camau priodol.
Dirprwy Lywydd, cyhoeddwyd y gwaith dilynol ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit "heb gytundeb'' ', ddydd Gwener. Nododd fod tystiolaeth o ddull mwy cydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a bod cynllunio ar gyfer Brexit yn cyfateb i'r enghraifft fwyaf cynhwysfawr o weithio ar draws y Llywodraeth yr ydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei wneud hyd yma. Croesawaf y sylwadau hyn yn fawr iawn ac rwy'n gobeithio eu bod nhw, ynghyd â'm datganiad i, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ein bod ni a'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r trydydd sector yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith drychinebus Brexit 'heb gytundeb' ar wasanaethau cyhoeddus, ac ar ein cymunedau a'n dinasyddion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch diffuant i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru am eu hymroddiad enfawr a pharhaus i'r hyn a allai fel arall deimlo fel tasg braidd yn ddiddiolch? Diolch.