– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 1 Hydref 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i sôn am y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth Cymru, ein barn ni yw na ddylid hyd yn oed meddwl am Brexit 'heb gytundeb'. Fel y clywsom eisoes, gallai'r effeithiau fod yn ddifrifol ac yn bellgyrhaeddol. Gwyddom y bydd yn anodd iawn lliniaru effeithiau ymadael heb gytundeb, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i weithio'n ddiflino yn erbyn y posibilrwydd hwnnw, yn ogystal ag i leihau effaith drychinebus canlyniad o'r fath, i'r graddau yr ydym yn gallu gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ymhelaethu ar agweddau ar ein cynllun gweithredu ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' a'r gwaith ehangach y mae rhai o'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan weithio'n agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector, yn ei wneud i baratoi.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gyfrifol am gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol yn gallu ymateb i bob sefyllfa Brexit. Maen nhw, a phartneriaid yn y trydydd sector, yn allweddol i ddarparu ymateb lleol i effaith niweidiol Brexit 'heb gytundeb' ar ein cymunedau. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaethom ni gydnabod y byddai'r gwaith paratoi hwn yn cymryd cryn dipyn o adnoddau ac ymdrech. Darparwyd arian gennym ar gyfer cydlynwyr Brexit penodedig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, ac ar gyfer gwaith gan CLlLC i'w cefnogi a'u cynghori. Mae'r cyllid hwn o dros £1.3 miliwn wedi galluogi pob awdurdod lleol i baratoi ei wasanaethau ei hun i ymateb i ymadael 'heb gytundeb'.
Maen nhw wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol i leihau'r effaith a gaiff ar ein dinasyddion yn sgil y tarfu ar borthladdoedd, y cadwyni cyflenwi bwyd, cynnydd yng nghost bwyd a thanwydd, yn ogystal â'r posibilrwydd o darfu ar lif data. Gallai tarfu ar gadwyni cyflenwi effeithio ar gyflenwadau bwyd i ysgolion a chartrefi gofal, neu i bobl agored i niwed yn eu cartrefi. Bydd unrhyw gynnydd mewn costau tanwydd a nwyddau neu rwystrau eraill i'r gweithlu yn effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth a phrosiectau adfywio ac adeiladu, o dai i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae awdurdodau lleol, fel eraill, wedi gorfod gweithio drwy'r materion hyn i archwilio dewisiadau amgen a datblygu cadernid ar draws eu gwasanaethau.
Mae'r effeithiau yn mynd yn ehangach na gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae economïau lleol, sydd eisoes wedi'u niweidio gan ddegawd o gyni, yn teimlo effeithiau ansicrwydd ymadael 'heb gytundeb'. Mae swyddogaeth llywodraeth leol o ran cefnogi economïau lleol yn sylweddol, boed hynny drwy gefnogaeth uniongyrchol, penderfyniadau prynu neu adfywio ehangach. Yn rhan o'n pecyn haf o ysgogiad economaidd, darparodd y Llywodraeth £20 miliwn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol i gefnogi ac ysgogi eu heconomïau lleol yn erbyn effeithiau Brexit. Rydym hefyd wedi ariannu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu'r trydydd sector i fod yn barod. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd eu hadroddiad 'Grymuso Cymunedau'.
Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg y byddai Brexit 'heb gytundeb' anhrefnus yn effeithio ar bawb, gan roi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes o dan bwysau. Wedi blynyddoedd o gyni a thoriadau gan Lywodraeth y DU, ni all y gwasanaethau hyn fforddio canlyniadau dirwasgiad dwfn arall a chynnydd posibl i brisiau bwyd a thanwydd, a allai wthio nifer fwy o bobl i dlodi a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus.
Hoffwn ddweud ychydig o eiriau am effaith Brexit, gyda neu heb gytundeb, ar ein cymunedau a'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y peryglon i'r rhai hynny sydd eisoes yn byw mewn tlodi, neu sydd mewn perygl o ddisgyn i dlodi. Mae tai a lleihau digartrefedd eisoes yn un o'n blaenoriaethau mwyaf taer. Bydd Brexit 'heb gytundeb' yn gwneud y sefyllfa hon yn waeth, gan roi bywoliaeth pobl mewn perygl, a chynyddu costau byw, gan gynnwys costau morgais a rhent. Dyna pam, o dan y gyllideb atodol gyntaf, y dyrannwyd £50 miliwn o wariant cyfalaf ychwanegol i gyllideb y grant tai cymdeithasol i helpu i wrthbwyso effaith economaidd gadael heb gytundeb.
Yna, mae'n bosibl y bydd cynnydd yng nghost bwyd, oherwydd sioc economaidd neu lai o gyflenwad. Mae'r galw am fanciau bwyd wedi bod ar gynnydd ers nifer o flynyddoedd. Byddai unrhyw gynnydd mewn prisiau bwyd yn fater o bryder mawr. Dyna pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog gronfa gwerth £2 miliwn yn ddiweddar ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni hefyd yn ystyried ffyrdd y gellid defnyddio ein cronfa cymorth dewisol i gefnogi'r rhai hynny a fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit 'heb gytundeb'.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwbl glir ynghylch y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y bobl hynny o genhedloedd eraill yr UE sydd wedi gwneud eu cartrefi gyda ni, sy'n cyfrannu at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein bywyd dinesig a'n diwylliant. Un o'r agweddau mwyaf truenus ar ein hamgylchiadau presennol yw'r pryder a'r ansicrwydd y mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn wedi'u dioddef cyhyd. Gadewch i mi fod yn glir: mae'r cyfrifoldeb am hyn yn sefyll yn gadarn wrth ddrws Llywodraeth y DU ond nid ydym ni'n sefyll yn ôl ac yn gwneud dim. Rydym ni wedi ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru i helpu dinasyddion i wneud cais am statws preswylydd sefydlog drwy ein prosiect hawliau dinasyddion yr UE, yn ogystal ag ariannu gwasanaeth cyngor ar fewnfudo i ddarparu cyngor mwy arbenigol.
Dirprwy Lywydd, gwyddom fod refferendwm yr UE wedi creu rhaniadau mewn teuluoedd, mewn cymunedau ac mewn cymdeithas a allai gymryd cenhedlaeth i'w cyfannu. Mewn rhai achosion, mae wedi arwain at fwy o densiynau ac achosion o droseddau casineb. Gydag ansicrwydd Brexit 'heb gytundeb', gallai'r tensiynau hyn waethygu. Felly, rydym ni wedi ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol, a gydgysylltir gan awdurdodau lleol, drwy £1.5 miliwn ychwanegol o gyllid pontio Ewropeaidd dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r cyllid hwn bellach yn cefnogi timau bach ym mhob rhanbarth o Gymru i fonitro tensiynau cymunedol a hybu mwy o ymgysylltu yn ein cymunedau. Rydym ni hefyd wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer y ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, ac wedi datblygu grant troseddau casineb newydd ar gyfer cymunedau lleiafrifol i gefnogi partneriaid y trydydd sector sy'n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i liniaru effeithiau troseddau casineb a'u hatal yn y dyfodol.
Wrth gwrs, nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae rhai effeithiau y tu hwnt i reolaeth llywodraeth leol, neu yn wir Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fyddan nhw'n ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi’u datganoli neu faterion macroeconomaidd. Ni fydd unrhyw lefel o gynllunio a pharatoi naill ai yn y fan yma, na chan Lywodraeth y DU, yn gallu ymdopi'n ddigonol â lefel y tarfu y byddai ymadael 'heb gytundeb' yn ei olygu i bobl Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn gweithio ar gynllunio wrth gefn ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' ers y cyfnod cyn y dyddiad ymadael cychwynnol ym mis Mawrth. Mae'r pedwar fforwm Cymru Gydnerth lleol ledled Cymru wedi nodi'r risgiau lleol ac maen nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod i nodi a lliniaru'r risgiau hyn. Rydym ni wedi cyfrannu at weithrediad Ymgyrch Yellowhammer Llywodraeth y DU ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod gennym y strwythurau a'r prosesau cywir ar waith i fonitro'r effeithiau a, phan fo angen, i gymryd y camau priodol.
Dirprwy Lywydd, cyhoeddwyd y gwaith dilynol ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit "heb gytundeb'' ', ddydd Gwener. Nododd fod tystiolaeth o ddull mwy cydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a bod cynllunio ar gyfer Brexit yn cyfateb i'r enghraifft fwyaf cynhwysfawr o weithio ar draws y Llywodraeth yr ydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei wneud hyd yma. Croesawaf y sylwadau hyn yn fawr iawn ac rwy'n gobeithio eu bod nhw, ynghyd â'm datganiad i, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ein bod ni a'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r trydydd sector yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith drychinebus Brexit 'heb gytundeb' ar wasanaethau cyhoeddus, ac ar ein cymunedau a'n dinasyddion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch diffuant i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru am eu hymroddiad enfawr a pharhaus i'r hyn a allai fel arall deimlo fel tasg braidd yn ddiddiolch? Diolch.
Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio, rwy'n credu, yn agos i'r dechrau, at risgiau dirwasgiad. Wrth gwrs, yn yr Almaen, sy'n pweru economi'r UE, mae 10 i 15 y cant o'i chynnyrch domestig gros yn dibynnu ar y gallu i fynd i farchnadoedd yn y DU, gan gynnwys Cymru, ac rydym ni'n deall o sylw yn y wasg yn ystod yr haf y gallen nhw fod ar drothwy dirwasgiad eu hunain. Felly mae'n amlwg bod gwerth i'r ddwy ochr sicrhau y ceir cytundeb, oherwydd nid yw Brexit 'heb gytundeb' yn mynd i helpu ein cyfeillion cyfandirol ychwaith.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at droseddau casineb. A gaf i hyrwyddo digwyddiad? Nos Fercher nesaf, 9 Hydref, rwy'n noddi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Integreiddio yn y Cynulliad, yn y Pierhead. Os na fyddwn ni'n eistedd yn rhy hwyr y noson honno, rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n dod i ddangos eich cefnogaeth i'r agenda honno ac yn rhannu yn y dathliad amlddiwylliannol a fydd yn digwydd y noson honno.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'', a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Wrth gwrs, mae'n dweud bod:
y broses o gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi parhau i gyflymu.
Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r heriau allweddol a nodwyd ganddo, sy'n wynebu arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, yn y diwygiad hwn o'i adroddiad ym mis Chwefror? Sef: cynnal gweithio ar y cyd; cryfhau cyfathrebu â'r cyhoedd; gwella'r broses graffu annibynnol, sy'n golygu bod angen i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am lywodraethu cyrff cyhoeddus yng Nghymru wella'r gwaith o oruchwylio a chraffu ar baratoadau ar gyfer Brexit; cytuno ar y cyd i ymateb i'r annisgwyl; ac i gynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau tymor hwy.
Dywedodd yr archwilydd cyffredinol, yn ei asesiad, a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus ledled Cymru yn cymryd eu gwaith cynllunio ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ o ddifrif. Mae llawer ohonyn nhw wedi cynyddu eu gweithgarwch yn sylweddol ers haf 2018.
Pa asesiad ydych chi a'ch cydweithwyr wedi'i wneud felly o'r £4 miliwn o Gronfa bontio'r UE a ddarparwyd hyd yma i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i gynllunio ar gyfer Brexit, o ran effeithiau a digonolrwydd?
Er bod effaith mudo o'r UE ar weithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi'i restru fel un o bryderon Llywodraeth Cymru yn ei dogfen ar baratoi ar gyfer Brexit 'heb gytundeb', canfu'r archwilydd cyffredinol bod y risg y gallai staff adael yn sydyn pe byddai Brexit 'heb gytundeb' neu unrhyw fath arall yn gyfyngedig, a bod gwasanaethau cyhoeddus, yn credu bod risgiau i’r gweithlu yn fwy perthnasol i’r tymor canolig a’r tymor hwy.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio i leihau unrhyw risgiau posibl yn y tymor canolig i'r hirdymor drwy'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, ac mae wedi bod yn glir eu bod yn dymuno i ddinasyddion yr UE aros. Y trefniadau mewnfudo 'heb gytundeb' ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd ar ôl Brexit—roedd dogfen 5 Medi yn manylu ar hyn. Mae'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, wrth gwrs, yn wasanaeth rhad ac am ddim y gall dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU ei ddefnyddio hyd at o leiaf 31 Rhagfyr 2020 pe byddai'r sefyllfa gwaethaf 'heb gytundeb' yn digwydd, a bydd yn rhoi hawliau a gwasanaethau tebyg i'r rhai hynny sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Yn hynny o beth, dywedodd mai bach iawn, os o gwbl, y bydd unrhyw darfu ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, o ran lefelau staffio. Felly, pa asesiad ydych chi'n ei wneud o'r amhariad posibl hwnnw i lefelau staffio yn sgil yr ymagwedd ragweithiol a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i dawelu meddyliau dinasyddion yr UE y byddan nhw'n dal i allu cael hawliau a chyfleoedd tebyg pe byddai Brexit 'heb gytundeb' yn digwydd?
Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu, pe na byddai cytundeb, y bydd yn darparu'r holl gyllid datblygu rhanbarthol Ewropeaidd a fyddai wedi'i ddarparu o dan raglen 2014-20. Mae hyn yn rhoi sicrwydd ac eglurder i gymunedau lleol a bydd yn caniatáu iddyn nhw barhau i allu manteisio ar lwybrau ariannu pwysig. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i fanteisio ar y cyllid hwn?
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn datgan bod yr awdurdodau lleol hynny a oedd wedi mabwysiadu agwedd 'gwylio ac aros' tuag at Brexit wedi dechrau cymryd camau i fwrw ymlaen â'u gwaith cynllunio ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'. Galwodd hefyd ar wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i:
ddechrau cynnal sgyrsiau gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn osgoi panig a tharfu dianghenraid.
Ei eiriau ef yw'r rhain. Wrth gwrs, bydd camau o'r fath yn rhoi mwy o hyder i breswylwyr. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth am barodrwydd ar gyfer Brexit ar gael, a'i bod yn parhau i fod ar gael, yn unol ag argymhellion yr archwilydd cyffredinol?
Bydd rheolau caffael y sector cyhoeddus yn aros yr un fath i raddau helaeth, ni fydd y trothwyon yn newid, ond un gwahaniaeth allweddol ar gyfer yr awdurdodau sy'n contractio fydd yr angen i anfon hysbysiadau at wasanaeth e-hysbysu newydd yn y DU, yn hytrach na Swyddfa Cyhoeddiadau'r Undeb Ewropeaidd. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau contractio yng Nghymru yn ymwybodol bod lefelau tebyg o reoliadau yn darparu mwy o sicrwydd ar gyfer caffael cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus, ar yr amod eu bod yn gwneud y newid bach hwn i'w harferion?
A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Os caf i gloi gyda'r cwestiwn hwn. Yn gynharach yn y mis, dywedodd cyfarwyddwr masnach de Môr Iwerddon Stena Line, awdurdod y porthladd yng Nghaergybi, fod y DU bellach wedi'i pharatoi'n well o lawer ar gyfer Brexit nag yr oedd ym mis Mawrth, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer Brexit, ac mae'n dweud nad yw rhai o'r ofnau gwaethaf a allai fod wedi cael eu gwireddu yn mynd i ddigwydd. Dywedodd hefyd: 'Ie, rwy'n credu—
Mae'n ddrwg gen i; bydd yn rhaid i chi geisio dirwyn i ben os gwelwch yn dda, Mark. Rydych chi wedi bod bron cyn hired ag a gymerodd y Gweinidog i gyflwyno'r datganiad.
Iawn. Sut y byddwch chi'n sicrhau neu a ydych chi'n sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y gogledd yn ymwybodol o'i ddatganiad y bydd tarfu am ddiwrnod neu ddau oherwydd ansicrwydd, ond mai dim ond am gyfnod byr iawn y bydd hynny?
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau—cyfres eithaf hir o gwestiynau. Fe wnaf fy ngorau i roi rhywfaint o olwg gyffredinol arnyn nhw. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod i, wrth gwrs, yn croesawu'n fawr y dathliadau amlddiwylliannol a grybwyllwyd gan Mark Isherwood, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny. Mae'n gwbl hanfodol yn y sefyllfa hon o ansicrwydd a rhaniadau ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n cyfrannu at ein diwylliant amlddiwylliannol cyfoethog yma yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol, a'u gwobrwyo am eu cyfraniadau. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Fe af yn sydyn drwy rai o'r pethau mwy penodol am lywodraeth leol a godwyd gan 7Mark Isherwood. Yn amlwg, rydym ni'n cydnabod y risgiau ariannol i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gyffredinol, fel y dywedais yn fy natganiad. Gallai ef helpu, wrth gwrs, drwy sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni'r ymrwymiad na fyddai Cymru'n colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit. Byddai cael y math hwnnw o sicrwydd yn sicr o gymorth o ran cynllunio. Wrth gwrs, ar hyn o bryd, nid oes gennym ni sicrwydd o'r fath. Mae honno'n broblem fawr. Byddai hefyd o gymorth pe byddai gennym ni unrhyw syniad beth fydd yn digwydd i'r gyllideb, oherwydd er bod gennym ni lawer o addewidion, nid oes gennym ni ddeddf cyllid nac unrhyw bleidlais arni. Felly, byddai hynny'n helpu hefyd.
Mae llywodraeth leol wedi gwneud eu gorau i raddau helaeth iawn, fel y dywed adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol. Rydym ni wedi datblygu dealltwriaeth dda o oblygiadau Brexit ac rydym yn ymgysylltu ar draws y Llywodraeth. Mae gennym gyngor partneriaeth yfory, mewn gwirionedd, pryd y byddwn yn trafod y paratoadau. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol roi'r wybodaeth ddiweddaraf bob mis i'r panel cynghori ar barodrwydd ar draws eu hawdurdodau lleol, ac, er enghraifft, mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys gwaith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi, yn enwedig y rhai hynny sy'n cefnogi gwasanaethau allweddol, mor gadarn â phosibl; i gefnogi gwladolion yr UE i sicrhau statws preswylydd sefydlog; hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o newidiadau megis yr ychydig a grybwyllwyd ganddo ynghylch gofynion ardystio allforion ac yn y blaen; codi ymwybyddiaeth o'r arferion gorau ar gyfer storio bwyd, er enghraifft darparu cyngor a chanllawiau ar ddiogelwch bwyd; ac unrhyw newidiadau i'r trefniadau arolygu mewn porthladdoedd ac yn y blaen.
Fodd bynnag, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, nad yw'r meinciau gyferbyn wedi gweld yr eironi oherwydd mae'r syniad mai'r unig broblem o ran caffael yw y byddwn ni'n hysbysebu ein contractau i awdurdod gwahanol yn chwerthinllyd, yn enwedig gan mai dyna'r unig beth yr oedden nhw'n gallu ei nodi mewn unrhyw fodd fel rhywbeth i gydio ynddo fel yr unig beth da i ddod yn sgil Brexit. Ac rwy'n credu y gadawaf hi yn y fan yna.
A allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus am Brexit heb gytundeb? Yn amlwg, fel rydych chi wedi olrhain yn eich datganiad, mae yna gryn dipyn o waith caled yn mynd y tu ôl i'r llenni a chryn dipyn ohono fe o flaen y llenni hefyd, os caf i ddweud, a mawr yw ein diolch.
Nawr, wrth gwrs, mae'r cwestiynau amlwg—ac fe wnaf i gadw fe'n fyr. Gyda'r holl baratoadau yma gogyfer Brexit heb gytundeb ar ran ein cynghorau sir, dwi'n sylwi ar y dosrannu, ariannu gwahanol fudiadau, ac mae hynny i'w gyfarch hefyd, ond pa arian yn benodol yn ychwanegol sydd yna wedi'i ddyrannu neu yr ydych chi'n sicr o allu ei ddyrannu i'n siroedd, i'n hawdurdodau lleol ni, er mwyn hwyluso'r gwaith o baratoi?
Yn benodol, felly, clywsom ni yn y drafodaeth yn gynharach efo trafnidiaeth: pa gymorth sydd yna i leddfu'r tagfeydd traffig fydd yn deillio o Brexit heb gytundeb yn ein porthladdoedd? Llefydd fel Caergybi—gwnaethon ni glywed gan Rhun ap Iorwerth gynnau fach—llefydd fel Caergybi, Doc Penfro, Abergwaun, byddan nhw o dan dagfeydd traffig enbyd, loriau ym mhob man, ac, wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol ar ein hawdurdodau lleol ni'n deillio o hynna. Felly, pa gymorth yn benodol sydd i'n siroedd ni yn y sefyllfa yna? Diolch yn fawr iawn i chi.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynna, Dai Lloyd. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni i gynllunio, ond dim ond i fod yn glir, nid oes modd ymdrin â'r holl risgiau sy'n gynhenid i Brexit 'heb gytundeb', ac ategaf sylwadau fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, am y gwir drueni o wylio arian a allai fel arall fod wedi cael ei wario ar wella gwasanaethau a helpu cymunedau yn cael ei wario ar baratoadau sydd, gobeithio, yn gwbl ddiangen ond y mae'n rhaid eu gwneud.
Cafwyd symiau penodol o arian—ac fe roddais y manylion yn y datganiad—ynghylch cymorth cyfalaf i awdurdodau lleol i wneud amrywiaeth o bethau, gan gynnwys ystyried asesiadau o'r effaith ar draffig ac ati. Manylwyd ar rai ohonyn nhw gan gyd-Aelodau eraill sydd wedi siarad yn y fan yma heddiw. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol ddefnyddio astudiaeth asesiad o effaith Grant Thornton i ddarganfod yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn benodol, ac yn amlwg bydd yr awdurdodau hynny sydd â phorthladdoedd ynddyn nhw wedi cael cyngor a chymorth penodol gan swyddogion trafnidiaeth sydd yn Llywodraeth Cymru ac mewn mannau eraill er mwyn cynllunio ar gyfer hynny.
Ond, yn y pen draw, wrth gwrs, rydym ni'n paratoi ar gyfer y pethau anhysbys hysbys a'r pethau anhysbys anhysbys clasurol hefyd, a'r cyfan y gallwn ni ei wneud yw sicrhau bod ein fforymau cadernid yn barod i fynd i'r afael â'r sefyllfa cyn gynted ag y byddwn yn sylweddoli beth yw goblygiadau'r dasg sydd o'n blaenau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod fy nghalon i'n torri ynghylch y pethau y gallem ni fod wedi'u gwneud gyda'r arian hwn ac nad ydym ni'n gallu ei wneud yn awr tra ein bod ni'n niweidio ein hunain yn ddiangen heb unrhyw reswm amlwg.
Diolch am yr holl wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni am arian ychwanegol ar gyfer cydlyniant cymunedol, am y grant tai cymdeithasol, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi arian ar gyfer banciau bwyd. Ond mae'n debyg, o ystyried yr holl ddatganiadau hyn yn gyffredinol, tybed o ble mae'r holl arian yn dod, oherwydd fe wnaeth Philip Hammond neilltuo £26.5 biliwn i ymdrin â Brexit, ond mae ei olynydd, Sajid Javid, wedi tynnu £13.8 biliwn o hwnnw ar gyfer pob math o addewidion cyn yr etholiad. Ac rydym ni bellach yn gwybod y bydd yn rhaid neilltuo £12 biliwn i ddileu dyledion heb eu talu gan fyfyrwyr. Mae hynny'n gadael £800 miliwn ar gyfer y DU gyfan, sy'n swnio'n llawer o arian i chi a fi, ond, yn amlwg, yn gyffredinol, nid yw hynny'n fawr o arian.
Felly, gan mai chi sy'n gyfrifol am argyfyngau sifil posibl, sut ydym ni'n mynd i ymdopi, o gofio maint yr argyfwng a allai godi os cawn ni 'doriad glân', fel y'i gelwir, a elwir fel arall yn Brexit 'heb gytundeb' trychinebus?
Ie, wel, mewn gwirionedd, mae argyfyngau sifil posibl ym mhortffolio'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ond fi sy'n gwneud y datganiad ar ran y Llywodraeth heddiw—dim ond er mwyn bod yn glir ynglŷn â hynny. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid yn y trydydd sector i sicrhau sefyllfa o barodrwydd, cystal ag y gallwn ei gael, o ran yr hyn sydd gennym.
Hynny yw, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw: mae rhywfaint o arian wedi dod o'r Gronfa bontio Ewropeaidd, ond mae arian arall wedi'i ddargyfeirio'n uniongyrchol o ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Felly, mae'n gwbl dorcalonnus ystyried beth y gallem ni fod wedi'i wneud gyda'r arian hwn, pe byddai wedi bod ar gael ar gyfer gwasanaethau, a dyna'r ateb byr. Yr ateb arall yw nad ydym ni'n gwybod faint mae'n mynd i gostio, oherwydd tan ein bod ni'n gweld beth yw'r heriau, os byddwn ni'n gadael heb gytundeb, fyddwn ni ddim yn gwybod. Felly, bydd yn rhaid i ni roi arian wrth gefn ar gael i wneud yn siŵr, ac rwyf mewn cyngor partneriaeth yfory i drafod gyda'r awdurdodau lleol beth yn eu barn nhw y gallai hyn fod. Felly, nid yw'n newyddion da, o bell ffordd, ond roeddwn i'n falch iawn bod yr archwilydd cyffredinol o'r farn bod gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector wedi gweithio'n galed iawn i gael eu hunain i'r sefyllfa orau bosibl.
Roeddwn i'n arbennig o falch o'r gwaith yr oeddem wedi'i wneud ynghylch cydlyniant cymunedol, a'n gallu i ddarparu gwell cynllunio a gwell cefnogaeth i awdurdodau lleol ar gyfer y cymunedau hynny sydd, gadewch i ni wynebu'r peth, yn teimlo'n fregus iawn. Rydym ni'n awyddus iawn i'w helpu nhw i deimlo eu bod yn cael cymaint o ofal ag y gallwn ni wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn ei gael yng Nghymru tra bod hyn yn digwydd, ond—. Byddwn ni i gyd yn gyfarwydd yn ein hetholaethau ein hunain—mae eich etholaeth chi yn debyg iawn i'm hetholaeth i—gyda phobl sydd hyd yma wedi teimlo eu bod yn Gymry ac yn rhan fawr o'n diwylliant ni, sy'n cael eu gwneud i deimlo nad oes croeso iddyn nhw, ac rwy'n gresynu'n fawr bod hynny'n digwydd.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.