Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 1 Hydref 2019.
A allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus am Brexit heb gytundeb? Yn amlwg, fel rydych chi wedi olrhain yn eich datganiad, mae yna gryn dipyn o waith caled yn mynd y tu ôl i'r llenni a chryn dipyn ohono fe o flaen y llenni hefyd, os caf i ddweud, a mawr yw ein diolch.
Nawr, wrth gwrs, mae'r cwestiynau amlwg—ac fe wnaf i gadw fe'n fyr. Gyda'r holl baratoadau yma gogyfer Brexit heb gytundeb ar ran ein cynghorau sir, dwi'n sylwi ar y dosrannu, ariannu gwahanol fudiadau, ac mae hynny i'w gyfarch hefyd, ond pa arian yn benodol yn ychwanegol sydd yna wedi'i ddyrannu neu yr ydych chi'n sicr o allu ei ddyrannu i'n siroedd, i'n hawdurdodau lleol ni, er mwyn hwyluso'r gwaith o baratoi?
Yn benodol, felly, clywsom ni yn y drafodaeth yn gynharach efo trafnidiaeth: pa gymorth sydd yna i leddfu'r tagfeydd traffig fydd yn deillio o Brexit heb gytundeb yn ein porthladdoedd? Llefydd fel Caergybi—gwnaethon ni glywed gan Rhun ap Iorwerth gynnau fach—llefydd fel Caergybi, Doc Penfro, Abergwaun, byddan nhw o dan dagfeydd traffig enbyd, loriau ym mhob man, ac, wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol ar ein hawdurdodau lleol ni'n deillio o hynna. Felly, pa gymorth yn benodol sydd i'n siroedd ni yn y sefyllfa yna? Diolch yn fawr iawn i chi.