Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Hydref 2019.
Weinidog, yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld llifogydd eithafol mewn ardaloedd o Gaerdydd, a waethygwyd heb os gan y concrit a osodwyd ar gaeau ar gyfer cynllun datblygu lleol trychinebus Llafur, a thorri coed a choetiroedd hefyd. Dros yr haf, caewyd ffyrdd ar gyfer gwaith adeiladu ar gyfer cynllun dinistr lleol Llafur—gan mai dyna'r term cywir mewn gwirionedd—ac mae'r cyntaf o filoedd o dai drud iawn eisoes yn cael eu hadeiladu. Ond nid oes unrhyw arwydd o'r metro—dim arwydd ohono—ac nid ymddengys bod unrhyw ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol o gwbl. Ond mae lefel anhygoel o dagfeydd a llygredd aer yn sgil hynny ar hyn o bryd. A yw eich plaid yn difaru ildio ein cefn gwlad i ddatblygwyr corfforaethol allu gwneud elw mawr ohono, ac a ydych yn derbyn ei bod yn anghyfrifol iawn rhoi caniatâd i adeiladu'r tai hyn heb sicrhau bod unrhyw—unrhyw—seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith?