1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Hydref 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd? OAQ54424
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth gyhoeddus fodern ac integredig yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys gwasanaethau bysiau lleol, teithio llesol a metro trawsnewidiol de Cymru. Mae trafnidiaeth gyhoeddus integredig, wrth gwrs, yn allweddol er mwyn hyrwyddo newid moddol o'r car personol i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Weinidog, yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld llifogydd eithafol mewn ardaloedd o Gaerdydd, a waethygwyd heb os gan y concrit a osodwyd ar gaeau ar gyfer cynllun datblygu lleol trychinebus Llafur, a thorri coed a choetiroedd hefyd. Dros yr haf, caewyd ffyrdd ar gyfer gwaith adeiladu ar gyfer cynllun dinistr lleol Llafur—gan mai dyna'r term cywir mewn gwirionedd—ac mae'r cyntaf o filoedd o dai drud iawn eisoes yn cael eu hadeiladu. Ond nid oes unrhyw arwydd o'r metro—dim arwydd ohono—ac nid ymddengys bod unrhyw ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol o gwbl. Ond mae lefel anhygoel o dagfeydd a llygredd aer yn sgil hynny ar hyn o bryd. A yw eich plaid yn difaru ildio ein cefn gwlad i ddatblygwyr corfforaethol allu gwneud elw mawr ohono, ac a ydych yn derbyn ei bod yn anghyfrifol iawn rhoi caniatâd i adeiladu'r tai hyn heb sicrhau bod unrhyw—unrhyw—seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a'i gywiro ar yr honiad na wnaed unrhyw ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol a theithio integredig yn ardal Caerdydd? Mae rhaglen y metro eisoes yn cael ei datblygu. Mae’r cerbydau wedi’u harchebu. Mae cynlluniau ar y gweill, gydag astudiaeth arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth ddiweddaraf Cymru yn canolbwyntio ar goridor y gogledd-orllewin. Ac o ran teithio llesol, rwy'n falch o ddweud ein bod ni fel Llywodraeth wedi dyfarnu £5.5 miliwn i Gyngor Caerdydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol i’w cynorthwyo i sicrhau gwelliannau teithio llesol ledled y ddinas. Mae hyn yn cynnwys £2.9 miliwn ar gyfer wyth cynllun strategol, ac ehangu cynllun hynod lwyddiannus Nextbike.
Yn ogystal â hynny, rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r hyn a alwaf yn 'hafn garbon', sef yr ardal o lygredd aer crynodedig yn y ddinas hon. Rydym yn nodi ffyrdd, gyda Chyngor Caerdydd, o leihau’r defnydd o gerbydau preifat yn y ddinas, a’r wythnos hon, cefais drafodaethau gyda fy swyddogion ynghylch sut y gallwn gychwyn ar ymgyrch ddigynsail i ailblannu coed wrth inni wynebu problemau clefyd coed ynn. Credaf fod yn rhaid plannu mwy o goed—rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno'n llwyr—ledled Cymru, ac yn benodol, yn ein hardaloedd trefol. Nawr, rwy'n gredwr cryf mewn rheoli tir yn ofalus mewn amgylcheddau trefol, gan greu mwy o fannau gwyrdd, plannu mwy o goed, ac mae hynny'n rhan allweddol o 'Bolisi Cynllunio Cymru', sy'n cael ei addasu, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol yn rhoi sylw dyledus i'r angen am fannau gwyrdd. Mae'n dda i'r amgylchedd, ac mae hefyd yn dda i iechyd meddwl a lles.
Weinidog, clywaf yr hyn a ddywedwch am drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn buddsoddi mewn modelau da o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y profiad y mae pobl yn ei gael i wneud y newid hwnnw o gar i fysiau. Roeddwn ym mhentref Creigiau yn ddiweddar, ac er bod safleoedd bws yn y pentref, dywedwyd wrthyf na allant gael llochesi bysiau na chyrbau is y gall pobl anabl eu defnyddio. Nawr, rwy'n deall mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am lawer o'r gwaith hwnnw, ond pan fyddwch yn darparu grantiau i awdurdodau lleol, a ydych yn gwirio’r profiad i holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus wrth ddarparu’r grantiau hynny? Mae cael bws newydd sbon sy’n edrych yn dda ac yn sgleiniog ar y ffordd yn un peth, ond os nad oes mynediad ar gyfer pobl anabl yn y lloches fysiau, neu os oes disgwyl i bobl aros allan pan fydd hi'n arllwys y glaw, bydd pobl yn mynd yn ôl i'w ceir. Felly, onid ydych yn cytuno â mi ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar brofiad pob teithiwr, a bod angen buddsoddi arian, lle y gellir ei fuddsoddi, mewn llochesi bysiau a chyrbau is fel bod mynediad ar gyfer pobl anabl yn arferol yn hytrach na’n eithriad?
Cytunaf yn llwyr â'r Aelod. Mae profiad aelod o'r cyhoedd mewn safle bws yr un mor bwysig â'r profiad a gânt ar y bws ei hun. Ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi llywodraeth leol yng Nghymru, yn y flwyddyn ariannol hon, gyda gwell seilwaith bysiau sy'n cynnwys safleoedd bws modern sy’n addas i’r diben. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a gwasanaethau bysiau yn benodol a’r gwaith o greu partneriaethau o safon a fydd yn arwain at well darpariaeth gwasanaeth, a darpariaeth well mewn safleoedd bws ac ar lwybrau bysiau, gan gynnwys, er enghraifft, Wi-Fi am ddim, nid yn unig ar fysiau ond mewn safleoedd bws o bosibl.