Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:34, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod. Mae profiad aelod o'r cyhoedd mewn safle bws yr un mor bwysig â'r profiad a gânt ar y bws ei hun. Ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi llywodraeth leol yng Nghymru, yn y flwyddyn ariannol hon, gyda gwell seilwaith bysiau sy'n cynnwys safleoedd bws modern sy’n addas i’r diben. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a gwasanaethau bysiau yn benodol a’r gwaith o greu partneriaethau o safon a fydd yn arwain at well darpariaeth gwasanaeth, a darpariaeth well mewn safleoedd bws ac ar lwybrau bysiau, gan gynnwys, er enghraifft, Wi-Fi am ddim, nid yn unig ar fysiau ond mewn safleoedd bws o bosibl.