Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, y tu allan i'r DU, mae'n swyddogol bellach fod yr Undeb Ewropeaidd yn rhanbarth economaidd twf isel. Mae hyd yn oed economi'r Almaen, a fu unwaith mor gryf, bellach yn aros yn ei hunfan oherwydd, yn wahanol i'r DU, lle mae canran fawr o'n sylfaen fusnes yn fentrau bach a chanolig, mae economi'r Almaen wedi'i ddominyddu gan gorfforaethau rhyngwladol mawr ac mae'n ddibynnol iawn ar ei marchnadoedd allforio. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, pe ceid rhyfel tariff gwarthus ar ôl Brexit heb gytundeb, y byddai economi'r Almaen yn waeth ei byd o lawer nag economi'r DU?