Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, diolch, Weinidog. Rydych wedi cyfeirio at reilffordd y Cambrian. Wel, mae trenau'n cael eu tynnu oddi ar reilffordd y Cambrian i'w defnyddio mewn rhannau eraill o Gymru. Nid cyfrifoldeb Network Rail yw hynny; eich cyfrifoldeb chi a Trafnidiaeth Cymru ydyw.
Nawr, yn yr hydref y llynedd, gwelsom gryn dipyn o darfu ar rwydwaith y rheilffyrdd, ac ar un adeg, gwelsom y fflyd yn lleihau o 127 o drenau i 86 trên yn unig. Nawr, gwyddom ein bod yn disgwyl tywydd hydrefol bob blwyddyn yn y ffordd y daw, ond buaswn wedi disgwyl i'n gwasanaethau rheilffyrdd fod yn ddigon dibynadwy yn ystod cyfnod cynnes a sych yr haf eleni, ac ni ddigwyddodd hynny. Felly, mae hynny, wrth gwrs, yn peri pryder ynghylch sefyllfa'r teithwyr yr hydref hwn. Felly, o ystyried yr achosion gwarthus o oedi a chanslo dros yr haf, a allwch roi sicrwydd i bobl Cymru, a chymudwyr, na fydd lefel y tarfu yr hydref hwn yn agos i'r hyn a welsant y llynedd?