Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 2 Hydref 2019.
Gwnaf, rwy'n falch iawn o wneud hynny, gan y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau metro rheilffordd ysgafn newydd, neu drenau tram, ar reilffordd y Rhondda o 2022. Bydd y rhain yn cynnwys Wi-Fi am ddim, socedi trydan, gwybodaeth electronig i deithwyr, a byddant yn cynnwys systemau aerdymheru a mwy o gapasiti storio ar gyfer beiciau.