Trenau Newydd ar gyfer y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:00, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Ni fyddai eu tramiau'n gyfreithlon yma oherwydd y gydymffurfiaeth ar gyfer pobl â phroblemau symud. Mae'n rhaid iddynt gael toiledau sy'n hygyrch i bobl anabl. A ydych yn dweud y byddech yn darparu trenau tramiau yng Nghymru na allai pobl anabl eu defnyddio? Oherwydd mae hynny'n gywilyddus, os mai dyna yw eich safbwynt.