Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 2 Hydref 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Fe fydd yn ymwybodol o'r adroddiad a gyflawnodd yr Athro Brown ar hyn ar ein cyfer, ac rydym bellach wedi'i gyhoeddi a byddwn yn ymateb iddo yn unol â hynny. Ond ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae'r broses o roi'r cynllun gweithredu ar yr economi ar waith yn parhau, gyda'r contract economaidd yn hybu twf cynhwysol, teg a newid ymddygiad mewn lleoliadau busnes, a'r galwadau i weithredu a gynlluniwyd i sicrhau bod busnesau'n cael eu diogelu at y dyfodol. Ac fel rhan o'r galwadau i weithredu, rydym yn buddsoddi'n helaeth yn niwydiannau'r dyfodol ac yng nghydrannau'r diwydiannau hynny, fel awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, a fydd yn hybu cynhyrchiant a thwf swyddi.