Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Hydref 2019.
Rwy'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw, fel rhan o'r gwaith gwerth £194 miliwn ar uwchraddio gorsafoedd. Rydym yn awyddus iawn i wella diogelwch, ac fel rhan o hynny, byddwn yn cyflwyno mwy o gyfleusterau teledu cylch cyfyng y gellir eu defnyddio gan yr heddlu ac mewn erlyniadau yn y llys. Ond rwy'n fwy na pharod i ddarparu mwy o wybodaeth i'r Aelod.