Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:47, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Un peth y mae'r Athro Brown yn ei nodi yw bod mesurau gwerth ychwanegol gros yn arwydd da iawn o ba mor barod yw economi ar gyfer awtomatiaeth. Ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at faint yr her i Gymru, yn enwedig o ran paratoi'r gweithlu ar gyfer datblygiadau mewn awtomatiaeth yn sgil methiant i gynyddu ein gwerth ychwanegol gros. Ac os edrychwn ar ffigurau gwerth ychwanegol gros yn ôl rhanbarth, maent yn eich gwneud yn anghyfforddus tu hwnt fel Llywodraeth Cymru, rwy'n siŵr.

Mae Llundain yn cynhyrchu 33 y cant yn fwy na chyfartaledd y DU. Rydych wedi bod yn eich swydd ers 2016. Ar ôl cymaint o amser, mae'n deg iawn asesu bellach pa mor llwyddiannus y bu'r camau a gymerwyd gennych o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros. Nid yw'n edrych yn dda. Felly, pa mor barod y gallwn fod ar gyfer awtomatiaeth pan fydd ein gwerth ychwanegol gros o dan eich arweinyddiaeth fel Gweinidog yr economi mor bell ar ei hôl hi o hyd?