Busnesau Bach yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:10, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau bach yn sir Benfro yn well yw drwy fynd i'r afael â'r amryw broblemau seilwaith sy'n eu hwynebu, gan gynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith digidol. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a ganfu fod seilwaith gwael wedi effeithio ar 63 y cant o fusnesau Cymru. Roedd yr un adroddiad yn galw am fwy o waith trawsbleidiol i fynd i'r afael â'r problemau hynny. A allwch ddweud wrthym, felly, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i’r afael yn well â rhai o’r problemau seilwaith yn sir Benfro, er mwyn rhoi chwarae teg i fusnesau bach yn fy etholaeth wrth gystadlu â busnesau eraill ledled Cymru?